Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd ei lywodraeth deuluaidd yn dyner iawn, etto yn hynod o effeithiol. Yr oedd yn sylfaenedig ar egwyddorion moesol, yr oedd ei gweinyddiad yn sefydlog, ac nid yn ddamweiniol, a'i annogaethau (motives) yn rymus. Pan y byddai galwad am gerydd teuluaidd, dangosid yn bwyllog ac arafaidd, duedd, niweid, a chanlyniadau y trosedd; o ganlyniad, dangosid mai lles y troseddwr, ac nid boddio drwg-nwydau oedd mewn golwg. Hefyd, cyd-weithredai y rhieni yn rhagorol i'r perwyl hwn; ni byddent un amser, y naill am gospi a'r llall am arbed, y naill yn gwgu a'r llall yn gwenu; ond cyd-unent i ymddwyn tuag at y beius yn ol natur a maintioli ei fai, yr hyn a'u galluogai tu hwnt i bob peth i ddal i fynu drefn deuluaidd. Hefyd, ni wnai lanw meddyliau ei blant ag addewidion, na fwriedid byth eu cyflawni, ni ddygid dim chwaith oddiarnynt trwy gam-achwyn, ni chymmerid dim byth oddiwrthynt, a ystyrid yn eiddo personol iddynt, heb eu caniatad; fel hyn, dangosid mewn ymarferiad, werth a phwysfawrogrwydd egwyddorion moesol, megys cyfiawnder, gwirionedd, gonestrwydd, cymmwynasgarwch, yn nghyd â phob gweddeidd-dra.

Un peth yn mhellach a grybwyllaf am dano yn y cylch teuluaidd, nid y lleiaf chwaith yn mhlith ei rinweddau, sef, ei weddiau dros y teulu. Byddai ei weddiau teuluaidd bob amser yn syml, yn gymhwysiadol, ac yn wastadol yn daer iawn, am i bob aelod ynddo gael y fraint o fod yn ddefnyddiol dros Grist. Byddai ei gyflawniad o'r ddyledswydd hon mor rheolaidd ag ysgogiadau y ffurfafen; ni chai na phrysurdeb teuluaidd, na llafur na blinder corfforol, na hwyrol oriau y nos, byth osod o'r neilldu y ddyledswydd bwysig hon. Gwr cydwybodol oedd ef hefyd yn ei weddiau dirgelaidd; miloedd o honynt a offrymodd, nad oes iddynt neb tystion daearol ond yr ystafelloedd yn y rhai y derchafwyd hwynt.

Pan ystyriom gysuron teuluaidd Mr. W. o un tu, a'i deithiau hirfaith a llafurus o'r tu arall, yr ydym yn rhwym o gydnabod mawredd ei hunan-ymwadiad, a'i gariad at achos achub.

Yr oedd Mr. W. etto yn enwog yn y gymdeithas neillduol. Yr oedd yn fedrus i hyfforddi yr anhyfforddus, i rwymo y rhai ysig eu calon, i ddadleni twyll y rhyfygus, ac i agor iddynt yr ysgrythyrau. Yr oedd ei ddefnyddioldeb a'i gymmeradwyaeth yn fawr yn yr ardal, wrth wely y claf, at gwyn y tlawd, a chyfyng amgylchiadau y gymmydogaeth, pan gollasant Mr. W. collasant eu prif gynghorwr. Gŵyr ugeiniau o frodyr yn y Dywysogaeth, am ei werth mewn cynnadledd Cymmanfa, mor fedrus fyddai i ddattod cylymau dyrus, mor gymmeradwy fyddai ei gynnygiadau, ac mor dderbyniol fyddai ei gynghorion gan y brodyr oll. Pan feddyliom am ddefnyddioldeb, hynawsedd, a serchawgrwydd ein hanwyl gyfaill, y mae ynom ryw ymofyniad cymmysgedig o hiraeth, grwgnach, a syndod. Paham na chawsem ei gymdeithas addysgiadol a'i gydweithrediad effeithiol am dymmor yn mhellach? Yn neillduol pryd y gallasai o ran ei oed a grym ei gyfansoddiad fod yn ddefnyddiol yn yr