Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iadau, ac nid i'r un graddau, yn ymddygiadau plant a gwragedd, a Christionogion cyffredin yr oes hon. Gwelai egwyddorion mawrion caledwch calon Pharoah, a chewri ereill mewn drygioni, yn ymddygiad cyffredin gwrandawyr yr efengyl, ac yn mhlant anufydd yr Ysgol Sabbothol, ac ereill; a thriniai yr holl egwyddorion hyn a'r cyffelyb mor hylaw a dedwydd â phe buasai wedi bod yn dyst o'u gweithrediadau cyntaf. Trwy y pethau hyn a'u cyffelyb yr ydoedd yn medru gwneuthur holl lyfr Duw yn fuddiol yn ei weinidogaeth; trwy hyn yr oedd yn gwneyd Crist yn bob peth iddo ei hun a'i wrandawyr. Clodforer Duw am ei godi cyfuwch yn y weinidogaeth, am ei gynnal cyhyd ynddi, a thywallter dau parth o'i ysbryd ar ei olafiaid, ac ar yr annheilyngaf o honynt,

Llanuwchllyn.MICHAEL JONES


At y Parch. W. Rees.

ANWYL GYFAILL,—Gyda theimladau galarus yr wyf yn ymaflyd yn fy ysgrifell i gydsynio â'ch cais ar yr achlysur presennol, wrth feddwl am y golled a gawsom fel brodyr yn y weinidogaeth, yn neillduol yr eglwysi Annibynol yn y Dywysogaeth, yn marwolaeth ein hybarch a'n gorhoffusaf gyfaill, y Parch. W. WILLIAMS. Ond pan feddyliwyf am aneffeithioldeb yr hiraeth mwyaf, y cwynion dwysaf, a'r dagrau halltaf, ar angeu, y bedd, a stâd y marwolion, cyfyd rheswm i fynu yn dalgryf, a dywed wrthyf yn awdurdodol am dewi â chwyno, sychu fy nagrau, a defnyddio fy ysgrifell i gyfleu ychydig bethau fyddo'n tueddu i drosglwyddo cymmeriad ein gwron enwog i'r oesoedd dyfodol. Ar yr ystyriaethau hyn, yr wyf yn ei chydnabod yn anrhydedd, ac yn fraint, i gael cyfleusdra i roi maen bychan yn rhyw ran o'r golofn goffadwriaethol.

Gwedi cael cyfleusdra yn ddiweddar i weled eich manuscript chwi, nid wyf yn golygu y gallaf chwanegu dim at e'ch darluniad rhagorol o'i gymmeriad cyhoeddus, gan hyny, troaf yn uniongyrchol i olrhain ei gamrau mewn cylchoedd anghyoedd.

Yn y cylch teuluaidd, yr oedd cymmeriad Mr. W. yn ddysglaer iawn. Ymddygai yn serchog tuag at bawb yn y tŷ, nid yn unig at ei briod cariadus, a'i blant tirionaidd, ond hefyd at y rhai fyddai yn gweini; gwell oedd gan bawb o honynt weled ei wyneb ná'i gefn. Heblaw hyn, yr oedd yn hynod fel hyfforddwr y teulu. Byddai ei ymddyddan â Mrs. W. yn gyffredin o'r natur hon; yr oedd hi yn fedrus iawn i ddal i fynu y fath gymdeithas. (Byr hanes o Mrs. W a gyhoeddwyd yn Dysg. Rhif. Gorph. 1836.) Yr oedd Mr. W. yn hynod fel hyfforddwr ei blant; beth bynag fyddai testun yr ymddyddan, pa un ai agoriad y blodeuyn, diwydrwydd y wenynen, y gylionen yn y ffenestr, dychweliad y wenol, neu gynnadledd y brain, tynai addysgiadiau buddiol ac adeiladol oddiwrthynt er agor eu deall, cyffroi eu serch, a dyfnhau eu hargraffiadau crefyddol. Aml y cyfranogai y gwas a'r forwyn o'r un breintiau.