Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwyr ieuainc am awr neu ddwy, a byddai rhyw fater dyrus yn aml mewn duwinyddiaeth neu anianyddiaeth yn cael ei olrhain, mewn modd syml ac eglur, nes y byddai yn adeiladaeth fawr i feddyliau y myfyrwyr gwyddfodol. Byddai yr ymweliad hyn o'i eiddo yn fendithiol iawn i eangu eu ddeall, ac i'w tueddu i fyw yn fwy duwiol, i wneuthur gwell defnydd o'u hamser, er eu cynnydd eu hunain, a lles ereill, a gogoniant Duw. O'm rhan fy hun, gallaf dystiolaethu fod hyn yn un o'r pethau mwyaf bendithiol a gefais tra yn yr athrofa hòno; yr ydwyf yn rhwym o ffurfio fy syniadau duwinyddol yn ol gair Duw, a'm syniadau anianyddol yn ol prawf, achos, ac effaith, ond bu efe yn offeryn da i ddwyn fy meddwl i weithredu ar y pethau hyn, a'i hwylio yn ei ymchwil i ddirnad drosto ei hun er graddau o foddlonrwydd. Diau genyf fod gradd helaeth o wybodaeth gyhoeddus wedi ei chyfranu trwy ei ymdrech hyn gyda'r myfyrwyr; ond mwy nâ'r cwbl oedd, y byddai ei holl ymdrin â ni yn tueddu yn fawr er hunan-ymroddiad i Dduw, a'n dwyn i fyw yn fwy duwiol; dangosai yn eglur i ni mewn modd siriol a deniadol, y byddai ein bywyd gweinidogaethol yn ol ein bywyd athrofaol, ac y byddem yn sicr o fagu'r eglwysi dan ein gofal o'r un ysbryd ac archwaeth â ni ein hunain, am hyny, os mynem i'r eglwysi fod yn dduwiol, a'r byd i deimlo ein gweinidogaeth, y byddai yn rhaid i ni yn gyntaf fod yn yr unrhyw agwedd ein hunain; magai, a meithrinai ni yn fawr yn y pethau hyn. Gallwn hefyd grybwyll, am fy mod yn cofio hyny yn nerthol, am ei ymddygiad nefolaidd yn nghyfeillachau y gweinidogion mewn blynyddau diweddarach; doeth iawn a fyddai yn ei gynghor, a byddai yn hynod o nerthol mewn gweddi yn y cyfeillachau hyny. Dangosai ei fod yn meddwl ac yn teimlo yn fanylaidd mewn perthynas i'r pethau a draethai gerbron Duw, ac yn wastad byddai yr unrhyw ysbryd i raddau helaeth yn syrthio ar ei gyd-weddiwyr, nes y byddent yn gyffredin yn siriol wylo pan yn cyd-anerch gorsedd gras, a byddai y mynudau hyny y mwyaf buddiol oll o'r gyfeillach. Fy nymuniad yw, i'r un ysbryd gweddi i gael ei dywallt arnom ninnau oll, er ei fod ef wedi ein gadael.

Bum gydag ef amryw deithiau byrion trwy Ddeau a Gogledd. Byddai yn ofalus iawn am weddio yn mhob man, ac yn y daith ddiweddaf y buom gyda ein gilydd, ein cyfammod wrth ddechreu y ffordd, oedd, pan y byddem yn ymddyddan, am fod genym ryw fater da, a defnyddiol, a phan y byddem yn ddystaw, ein bod yn gweddio yn ddirgel yn ein meddyliau; bu ein taith yn dra hyfryd ac adeiladol i mi. Gŵr mawr iawn ydoedd am ddeall egwyddorion pob peth, ac yn neillduol eiddo yr ysgrythyrau. Mor eglur y dangosai fod egwyddorion ymddygiadau Duw at ddynion, yr un yn mhob oes o'r byd, ond bod amgylchiadau eu gweinyddiad yn amrywiol. Gwelai egwyddorion mawrion ymddygiadau Duw tuag at Israel yn y Môr Coch, mewn mân amgylchiadau eglwysi a theuluoedd yn ei ardal anneddol. Gwelai egwyddorion mawrion Abraham a Moses, ac ereill a gawsant air da trwy ffydd, er nid yn yr un amgylch-