destunau ymddyddanion buddiol i'r bwrdd, er llesâd a gwir fuddioldeb y presennolwyr. Unwaith, pan oedd yn lletya yn Nolgellau, edrychai yn graff ar y bachgenyn ar lin ei dad, gwr y tŷ, a dywedodd wrth y tad, "Edrychwch ar ei ol yn ddyfal;" a thrachefn ail adroddai yr un geiriau wrtho, gan edrych arno yn ddifrifol. Dywed y tad hwn fel y canlyn: "Yna gofynais iddo, a fyddai cystal â rhoddi i mi rai cyfarwyddiadau i hyny. Yna y dangosai bob parodrwydd i wneyd, a dywedodd am i mi a'i fam bob amser gydweithredu, yn neillduol wrth geryddu—nid un yn ceryddu, a'r llall yn ceisio arbed; a gofalu na byddai i ni byth wneyd hyny dan lywodraeth nwydau drwg. 2. Am ddysgu i'n plant weled gwerth arian, a pheidio a'u gwastraffu am bethau melusion a diles, ac ar yr un pryd eu dysgu i fod yn hael at achosion crefyddol. 3. Am fod yn ofalus am gyflawni pob addewid iddynt yn y pethau lleiaf, yn gystal â'r pethau mwyaf. 4. Am fod yn ofalus i beidio rhoddi dim iddynt heb yn wybod y naill i'r llall. Ar y pen hwn coffaodd am un fam a wnai anrhegion i Tom ei hanwylyd, heb yn wybod i'w dad, yn enwedig pan oedd oddicartref yn yr ysgol, a Thom a waeddai am ragor o hyd, nes ar y diwedd i hyn achlysuro Tom i fod yn ddiotwr, ac yn Tom feddw, er gofid mawr i'w dad duwiol a'i fam dirionaf (neu greulonaf). 5. Am beidio un amser a'u gwobrwyo am fod yn dda; fod tuedd yn hyn i esbonio ymaith y rhwymau oedd arnynt i hyny," &c. Coffâ yr un gwr hefyd am sylw a glywodd gan Mr. WILLIAMS wrth bregethu, er ys amryw flynyddau cyn ei farw, sef "ei fod yn teimlo llawer o amheuaeth yn aml am wirionedd ei grefydd, ond ei fod yn penderfynu glynu gyda chrefydd hyd y diwedd, gan gredu nad oedd ond colledigaeth iddo yn mhob man y tu allan i eglwys Dduw a llwybr ei ddyledswydd." Mynych y dywedai wrth rieni plant, nad oedd eisieu iddynt arfer llywodraeth lem tuag at eu plant, ond iddynt ei harfer mewn gwastadrwydd ac yn gysson—nid eu cofleidio, eu canmol, a'u moli, weithiau, a thro arall arferyd gormod llymder.
Mynych y dywedai wrth ieuenctyd yr hyn a hir gofient. Pe buasai llawer yn sefyllfa Mr. WILLIAMS, ni buasent yn sylwi ond ychydig ar wehilion y bobl; ond cofiai Mr. WILLIAMS fod gan y rhei'ny eneidiau i fyw yn dragywyddol, a bod yn ddyled arno wneyd pob ymdrech a fedrai er eu dwyn i afael iachawdwriaeth dragywyddol.
Dolgellau.CAD. JONES.
At y Parch. W. Rees
GWYR y byd am lawer o wasanaeth Mr. WILLLAMS, am mai cyhoeddus iawn ydoedd, ond fe allai fod un ran dra buddiol o'i lafur, nad yw y cyffredin ddim wedi sylwi arni; yr ydwyf yn cyfeirio at ei fuddioldeb i'r myfyrwyr pan yr oedd Athrofa Gwynedd yn Ngwrecsam. Byddai yn dyfod yno at y myfyrwyr yn aml, nid fel un mewn swydd, ond fel cyfaill ac ewyllysiwr da i wybodaeth, a byddai yn cadw cyfarfodydd gyda'r