Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Haweis, a Wilks, i sefydlu yr achos cenadol; Charles, a Hughes, i sylfaenu cymdeithas Biblau. Y mae'r enwogion hyn a'r rhan fwyaf o'u cyfoedion, wedi ehedeg ymaith, ond y mae y gwaith da a gychwynasant o hyd yn myned rhagddo. Cododd rhagluniaeth y Parchedigion J. Roberts, o Lanbrynmair; W. WILLIAMS o'r Wern, ac ereill, ar adeg dra neillduol er codi i sylw y Dywysogaeth duedd ymarferol athrawiaethau gras, llwyddasant yn rhyfedd yn yr ymgyrch, cyrhaeddasant eu hamcan i raddau dymunol; yr oedd poblogrwydd uchel-Galfiniaeth y pryd hyny, yn galw am nerth cewri idd eu gwrthsefyll a'i dadymchwelyd; ond bu gweinidogaeth effeithiol yr enwogion crybwylledig yn foddion yn llaw rhagluniaeth i gyfnewid golygiadau duwinyddol y Dywysogaeth yn mhlith pob enwad crefyddol o'i mewn. Effeithioldeb ysgrifell y naill, a hyawdledd y llall a gyd-wasanaethasant i boblogrwydd yr egwyddorion a amddiffynent, ac er rhoddi tôn arall i'r weinidogaeth gyhoeddus; fel y mae gwrthwynebwyr yr egwyddorion hyn heddyw mor anaml ag oedd eu cefnogwyr ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol; yr oedd amgylchiadau'r amseroedd y pryd hyny, yn galw am nerth ac effeithiolaeth cedyrn Dafydd, ond yn awr gall dynion o faintioli cyffredin ateb y dyben yn dda. Er mor effeithiol oedd gweinidogaeth ein cyfaill ymadawedig gwna yr achos a bleidiodd mor wresog, lwyddo mwy wedi iddo farw, nag a wnaeth tra y bu ef byw. Pan y mae y gweithwyr ffyddlon yn cael eu symud o'r winllan, y mae Arglwydd y winllan yn byw bob amser i gefnogi y gweithwyr sydd etto gyda'u gwaith gan ddywedyd, "Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Pan y mae eglwys Dduw yn galaru ar ol ei henwog a'i ffyddlon weinidogion, gall ar yr un pryd lawenhau a gorfoleddu yn mywyd ac effeithioldeb ei Phen. Y mae ei chysur a'i llwyddiant yn ymddibynu mwy ar ei fywyd a'i ffyddlondeb ef, nag ar fywyd ac effeithiolaeth y ffyddlonaf o'i hanwyl weinidogion.

4. Cymmerwyd ef ymaith mewn trefn i symud achlysur tramgwydd o ffordd brodyr gweiniaid. Y mae amryw o osodiadau, Dwyfol o ran eu tarddiad, a buddiol eu tueddiad, wedi eu cam-ddefnyddio, a'u troi yn achlysuron tramgwydd, o herwydd gwendid y natur ddynol. Yr oedd y sarff bres yn ngwersyll Israel yn osodiad Dwyfol, ac yn foddion bywyd i'r cyfryw a frathid gan y seirff tanllyd, etto daeth yn achlysur tramgwydd pan wnawd eilun o honi; ac mewn trefn i ddileu'r effaith, yr oedd yn rhaid symud yr achos. Y mae bedydd hefyd yn achlysur tramgwydd, pan ei cymmerir yn lle adenedigaeth, ac y gosodir mwy pwys arno nâ ffydd yn Nghrist a chrefydd ymarferol. Yr un modd etto y Swper Santaidd, pan weinyddir ef i wrthryfelwr cyndyn yn ei oriau diweddaf, pan y bydd yr offeiriad yn ffug-ddirectio ei gymunwr, fel sypyn trefnus i bost office Caersalem, gan osod seal y llywodraeth arno, to demand a free passage. Y mae'r ordinhadau pwysicaf wedi bod, ac yn bod yn achlysur pechod. Etto am fod tuedd ymarferol yr ordinhadau hyn yn hanffodol anghenrheidiol i gysur a llesâd teithwyr Sïon nis