Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gellir eu dileu, faint bynag o gamddefnydd a wneir o honynt gan y tywyll a'r anystyriol.

Os yw yr ordinhadau yn achlysuru tramgwydd, gall personau hefyd fod yn achosi tramgwydd. Os bydd nebo weinidogion y cyssegr, trwy ëangder eu gwybodaeth, hyawdledd eu doniau, dysgleirdeb eu cymmeriadau, a ffyddlondeb eu hymdrechiadau, yn achlysyru mwy o son am danynt, a dysgwyliad wrthynt, nag a fyddo o son am, a dysgwyliad wrth Grist; diau eu bod, faint bynag fyddo eu duwioldeb, a'u defnyddioldeb yn feini tramgwydd, a gwell ar y cwbl i'r eglwysi iddynt gael eu symud ymaith, nâ'u gadael yn feini tramgwydd i'w eu haelodau gweinion.

Nid oedd neb yn fwy gochelgar yn y pethau hyn nâ gwrthddrych ein sylw yn bresennol, oblegid dangosai bob amser mai ei brif amcan oedd llesàu ei gyd-ddynion, ac nid ennill eu cymmeradwyaeth, etto cymmeradwyaeth fawr a gafodd. Er hyn i gyd, wrth feddwl am enwogrwydd ei weinidogaeth, cymmeradwyaeth ei gynnygiadau, a llwyddiant anarferol ei lafur yn ei ddyddiau diweddaf, nid rhyfedd os oedd yn codi yn rhy uchel yn meddyliau rhai o weiniaid Sïon, ac yn cymmeryd gormod o le UN rhy deilwng a gwerthfawr i ormesu arno. Felly barnwyd yn y llys uchaf fod yn well symud y gwas ffyddlon i wlad lle mae y preswylwyr oll yn rhy ddoeth i gam-gymmeryd.


5. Fel y byddo i ffyddlondeb ei blant gael ei wobrwyo. "Diau fod ffrwyth (gwobr) i'r cyfiawn." "A'r doethion a ddysgleiriant fel â dysgleirdeb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder a fyddant fel y ser, byth yn dragywydd." Y mae yr enw gweision yn cael ei briodoli yn aml i bobl yr Arglwydd yn yr ysgrythyrau, er dynodi eu rhwymedigaeth a'u gwaith—o'r tu arall, mynych y sonir am danynt yn y gair dwyfol dan yr enw plant, i arwyddo eu perthynas â Duw, a'u hanwyldeb ganddo—ond golygir y byddant yn y byd arall yn fwy fel plant, nag fel gweision, a'u mwynhad yno yn wobr Tad i'w blant, yn hytrach nâ'r eiddo meistr i'w weision cyflog. Afreidiol fyddai dywedyd, nad yw yr egwyddor hon yn milwrio yn erbyn yr athrawiaeth o raddau mewn gogoniant, (yr hon a ystyrid yn egwyddor bwysig gan ein cyfaill ymadawedig,) oblegid ymddyga tad doeth a da tuag at ei blant yn ol eu teilyngdod, er na bydd yn talu iddynt yn ol swm eu gwasanaeth, ond yn eu gwobrwyo yn mhell uwchlaw hyny, fel y bydd pob un yn derbyn anfeidrol fwy nag atdaliad am ei wasanaeth ffyddlonaf a'i lafur caletaf: etto bernir y bydd graddau eu ffyddlondeb yn graddoli eu sefyllfaoedd yn ngwlad y purdeb.

Ar yr egwyddor hon, cafodd ein hanwyl WILLIAMS ei gymmeryd ymaith mor gynnar yn mhrydnawn ei fywyd i dderbyn gwobr ei "waith a'i lafurus gariad," y rhai a weiniasai mor ffyddlon i'r saint am dymhor ei weinidogaeth.

Cafodd Mr. W. y fraint o yfed yn dra helaeth o ffynnonau cysur yn y byd yma; a bu'n ddiolchgar iawn i'w Dad nefol am y cyfryw bethau. Yr oedd hawddgarwch ei deulu—dymunoldeb ei amgylchiadau bydol—