Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei gymmeradwyaeth fel dyn ac fel pregethwr—oll yn tuedddu i gysuro ei feddwl. Y farn a allasai ffurfio am gymmeradwyaeth ei berson gyda Duw, ynghyd â'i ddefnyddioldeb i'w gyd-ddynion, oeddent yn effeithio i'r un perwyl. Wrth edrych ar y pethau hyn a'r cyffelyb, gellir casglu nad oedd ei gysur cymdeithasol yn brin yma; ond gellir sicrhau ei fod yn annhraethol fwy yn y gymdeithas berffaith.

Cafodd hyfrydwch mwy nag ellir ddirnad gan ddynion o alluoedd cyffredin, wrth fyfyrio yn ngwirioneddau y gair. Pan y byddai rhyw bwnc yn dywyll, ac anhawdd ei benderfynu, teimlai radd mawr o annedwyddwch meddwl, hyd oni chai fuddugoliaeth ar yr anhawsderau a'i cylchynai, ac y ffurfiai olygiadau cysson mewn perthynas iddo; yna byddai gorfoledd ei feddwl gymmaint, nes fel Archimedes y byddai yn agos ag anghofio ei hun. Syllai gyda hyfrydwch llewygol ar gyssondeb egwyddorion trefn achub, nes y llenwid ei feddwl â llawenydd annhraethadwy; ond er pelled y treiddiai ei lygad eryraidd i ddyfnion bethau Duw, a chymmaint oedd y mwyniant a dderbyniai drwyddynt yn ei sefyllfa gyntefig; yn ei sefyllfa bresennol mae yn eu canfod yn gan mil eglurach, a'i fwyniant hefyd sydd gan mil eangach.

Yn y cylch cyhoeddus cai lawer o fwyniant nefolaidd i'w feddwl, yn neillduol yn ei bregethau egwyddorol, eglur, a chynhyrfus, y rhai a draddodai mor serchiadol, hyawdl, ac effeithiol, nes byddai y dyrfa fel yn hongian wrth ei wefusau, a'u calonau yn doddedig dan ddylanwadau ei weinidogaeth, pan yn mywiogrwydd ei feddwl y tywalltai iddynt y drychfeddyliau mwyaf goruchel gyda ffrwd o areithyddiaeth diaddurn. Etto, yn mharadwys y mae yn gweithredu ar dir annhraethol uwch mewn modd annhraethol berffeithiach—a than amgylchiadau annhraethol fwy manteisiol; o ganlyniad, rhaid fod ei fwyniant yn annhraethol helaethach nag y bu erioed yn ei orlenwad uchaf yn y byd yma. Gynt yr oedd yn nghymdeithas dynion llygredig, yn awr y mae gydag "ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd"—gynt yr oedd yn gweithredu mewn cadwynau, ond yn awr yn gwbl rydd―gynt yr oedd yn byw fel wrth oleu canwyll, ond yn awr y mae yn nysgleirdeb yr haul—gynt byddai yn canu ac yn cwyno bob yn ail, ond yn awr y mae yn canu heb gwyno byth—gynt byddai ei gwpaneidiau yn gymmysg o felus a chwerw, ond yn awr y maent i gyd yn felus a digymmysg. Gwelwn fod ein colled ni yn elw iddo ef, a'n testun cwyno ni iddo ef yn destun canu.

Yn awr, rhaid i mi ffarwelio a'm hanwyl gyfaill, gan obeithio, er mor annhebyg, y caf ei gyfarfod etto ar ardaloedd gwynfyd, pryd na raid ffarwelio mwy. Yr eiddoch, &c.

Minsterley, Ebrill 2, 1841.THOS. JONES.