Sinai, ac oddiyno gallai ei llusgo at safn y pydew, a'i hysgwyd uwchben trigfa diafliaid, nes yr ysgogid pob gewin, ac y cyffröid pob teimlad gan arswyd. Gallai hefyd ei thywys i dremio ar helyntion Gethsemane a Golgotha, nes y byddai pob llygad fel ffynnon o ddagrau. Gallai, wedi hyu, ei dyrchafu at borth y nef, i syllu ar heolydd y ddinas santaidd, nes y byddai llawer Cristion gofidus yn anghofio ei drallodau oll, ac am yr amser hwnw, bron heb wybod pa un ai yn y corff yr ydoedd, ai allan o'r corff, ac yn ymadael o'r addoliad mewn awyddfryd mawr am fod oddicartref o'r corff, i gartrefu gyda'r Arglwydd. Y mae miloedd o dystion byw o hyn y dydd heddyw.
Un mawr iawn ei hynawsedd. Y mae llawer gwr da, doniol, a defnyddiol, ond yn anffodus yn meddu ar dymher ddrygnaws a sarugaidd, yr hyn a achosa anhyfrydwch mawr iddo ei hun ac i ereill, Ond tymher hollol i'r gwrthwyneb oedd gan ein diweddar frawd. Gŵyr pawb y sydd yn gwybod dim am dano, mai un tra hynaws a serchog ydoedd fel dyn ac fel cyfaill.
Un cyflawn iawn ei ddoethineb. Yr oedd yn llawn, nid yn unig o'r Ysbryd Glân, ond hefyd o ddoethineb. Ni wn am neb rhagorach nag efe gellid gofyn cynghor iddo mewn amgylchiadau dyrus. Yr oedd bob amser yn dra pharod i roddi cynghor, ac y mae lliaws profion yn gyrhaeddadwy heddyw o briodoldeb ei gynghorion.
Un dwfn iawn ei ostyngeiddrwydd. Pan yr ystyrir ei hynafiaeth, ei ddoniau, a'i ddylanwad ar fyd ac eglwys, ymddengys ei ysbryd diuchelgais yn un o brif ragorion ei nodwedd. Gwelwyd ef lawer gwaith yn nghyfeillachau cyfrinachol ei frodyr, ac yn llywyddu yn eu cynnulliadau cymmanfaol, ond gofalai bob amser am ymddangos yn y naill a'r llall, nid fel arglwydd ei frodyr, ond fel gwas yr Arglwydd. Yr oedd yn casâu trais a thra-arglwyddiaeth yn mhawb ereill, a gwyliai rhag coleddu yr ysbryd hwnw ei hun. Clywais ef, fwy nag unwaith, yn cyfeirio at ymadrodd yr hen ddiwygiwr gynt, sef bod " gan bob dyn bâb bach yn ei fol ei hun;" ac annogai bawb i ladd eu pabau bychain eu hunain, cyn amcanu darostwng pabyddiaeth neb arall.
Un cyhoeddus iawn ei ddefnyddioldeb. Yr oedd ei ddefnyddioldeb, nid yn unig yn un cartrefòl, ond hefyd yn un cyffredinol. Bu ei weinidogaeth yn fendithiol i liaws mawr o weinidogion ac eglwysi y Dywysogaeth. Teimlai ofal mawr dros lwyddiant, a phryder mawr yn helyntion achos y Gwaredwr yn gyffredinol. Yr oedd yn bleidiwr medrus a gwresog i bob achos rhinweddol. Llenwid ef gan ysbryd cyhoeddus. Nid oedd yn gwrthsefyll diwygiadau ei oes, ac nid oedd yn ymlusgo chwaith yn arafaidd ar eu hol. Blaenai yn mhob sefydliad teilwng, a cheid ef yn' wastadol yn mlaen-res yr ymdrech.
Un difrif-ddwys iawn mewn gweddi. Pan yr anerchai Wrandawr gweddi, gwnai hyny mewn symledd a gwyleidd-dra mawr. Tueddai ei ddull yn gweddio yn neillduol i ennyn duwiolfrydedd yn mynwes pawb