Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'i gyd-addolwyr. Yr oedd yn amlwg i bawb ei fod yn teimlo pwys y gorchwyl oedd yn ei gyflawni, ac yn gweled gwerth y bendithion oedd yn eu gofyn.

Wrth adolygu y pethau uchod, a meddwl am lawer ychwaneg a all esid ei ddywedyd, hawdd canfod i ni gael colled fawr wrth golli ein brawd, a bod i ni, mewn canlyniad, lawer o achosion priodol o DRISTWCH; ond y mae pethau ereill, mewn cyssylltiad â'i ymadawiad, yn deilwng o'u crybwyll, y rhai a ddangosant bod genym hefyd lawer o ddefnyddiau DYDDANWCH.

Gadawodd ei blant o fewn cylch proffes grefyddol. Sylwyd lawer gwaith, pan y byddai plant tad crefyddol yn troi allan yn annuwiol, "Da iawn nad yw yr hen ŵr eu tad yn fyw; buasai agwedd ei blant yn peri mawr ofid iddo." O'r ochr arall, pan y byddai y plant yn troi allan yn dduwiol a defnyddiol, sylwyd, "O na buasai yr hen wr eu tad yn fyw; buasai golwg ar rinwedd ei blant yn peri mawr lawenydd iddo." Cafodd ein brawd yr olwg siriol hon cyn ei farw, a diau fod hyny wedi peri mawr gysur iddo. Cychwynodd ei daith i fyd anfarwol, gan adael ei blant yn mynwes gwraig yr Oen.

Gadawodd ei eglwysi mewn heddwch a llwyddiant. Nid ymadael mewn ystorm a ddarfu, ond cafodd hin deg i gychwyn ei daith. Yr oedd eglwys y Tabernacl yn Liverpool yn blodeuo, ac eglwysi y Rhos a'r Wern yn ffrwythloni, fel prenau ar làn afonydd dyfroedd. Cafodd ei lygaid weled dymuniad ei galon.

Gadawodd y byd yn nghanol ei barch a'i boblogrwydd. Y mae rhai yn gorfyw eu parch, ac ereill yn gorfyw eu poblogrwydd; ond aeth ef adref â'r goron ar ei ben—coron yn ei llawn flodau heb wywo.

Gadawodd y byd yn yr amser hawddaf ei hebgor. Nid oedd ei golli pan ei collwyd yn ddyrnod mor drwm â phe buasid yn ei golli ddeg neu ugain mlynedd cyn hyny. Yr oedd yr achos y pryd hwnw mewn llawer mwy o wendid, a buasai ei golli yn ergyd o'r fath ag a fuasai yn peri digalondid cyffredinol. Ymddengys daioni a doethineb ein Harglwydd yn ei gymmeryd y pryd ei cymmerwyd. Ni ddisgynodd ddyrnod hyd nes oedd yr achos yn ddigon cryf i'w oddef. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol. Nid yn unig bu farw mewn tangnefedd, ond hefyd mewn gorfoledd. Peth mawr yw cael myned i'r porthladd ryw fodd, ond peth mwy yw cael myned yno yn llawn hwyl. Peth mawr yw cael teithio y glyn heb ofn, ond peth mwy yw cael ei deithio dan ganu. Tystiodd yn eglur ei obaith cadarn o gael ail-ymuno â'i briod ac â'i ferch, i gyd-osod eu coronau euraidd wrth draed yr Oen.

Gadawodd anialwch blinderus, a gwynebodd ar orphwysfa ddedwydd. Ni bydd raid iddo farw mwy. Croesawyd ef yno gan hen frodyr anwyl ganddo, a chaiff eu cymdeithas byth mwy. Croesawyd ef yno gan ei briod a'i blentyn, a melus ganddynt feddwl "na bydd raid ymadael