Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efe oedd y llygaid â pha rai y gwelem, y traed â pha rai y cerddem, y dwylaw â pha rai y gweithiem, a'r ffon ar yr hon y pwysem! Ni chamarferai ei ddylanwad; ymddygai yn wastadol fel brawd, ac nid fel un yn tra—awdurdodi ar etifeddiaeth Crist.

Ni allaf anghofio ei ostyngeiddrwydd. Yn nghanol mil o demtasiynau i ymchwyddo, ymgadwai yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel-radd. Adroddwyd wrthyf yr hanesyn canlynol am dano yn ddiweddar. Cyfleaf hyn yma, er i mi ddweyd ar y dechreu, mai y pethau yr ydwyf yn eu cofio am dano yn unig a grybwyllwn. Dywedai, pan yr oedd yn ddyn ieuanc, ei fod weithiau yn agored i ysgafnder, ac i ryw hen wraig ryw bryd ei gyfarch ar ol ei bregeth, a dywedyd wrtho, "Yr ydych yn bregethwr da, ond y mae yn rhaid i chwi roddi heibio y cellwair yna, onidê, ni wnewch fawr o les." "Ni sylwais nemawr (eb efe) ar ddywediad yr hen chwaer y pryd hwnw, ond cofiais am dani yn mhen blynyddau ar ol hyny. Y mae hi wedi myned i'r nefoedd, yr wyf yn credu. Ni wn i a gaf fi fyned yno ai peidio, ond bûm yn meddwl lawer gwaith, os byth yr awn i yno, mai un o'r pethau cyntaf a wnawn, a fyddai ymofyn am dani, i gael siglo llaw â hi, i ofyn ei phardwn, a diolch am ei chyngor."

Ni allaf anghofio ei gyfeillgarwch. Yr oedd ei gyfeillach yn dra adeiladol, fel yr oedd ganddo gyflenwad o wybodaeth naturiol a chretyddol; ac yn barod i "gyfranu rhyw ddawn ysbrydol" Nid bob amser. wyf yn meddwl i un fod erioed yn ei gymdeithas, heb fod yn ennillwr. Byddai ei sylwadau yn argyhoeddiadol, etto yn ddengar, yn oddefgar, yn haelfrydig, a'u tuedd bob amser at fod yn lles. Yr oedd yn fawr am fod yn gysson ag ef ei hun, ei farn yn bwyllus, a rhyw sylwadau naturiol, gwreiddiol, a tharawiadol ar bob testun.

Ni allaf anghofio ei weinidogaeth. Yr athrawiaeth bur a draddodai a ddefnynai fel gwlaw, a'i ymadrodd a ddiferai fel gwlith. Deffro y meddwl a gafael yn y gydwybod oedd ei brif nod, er na chanfyddid mo hono, nes teimlo archoll y saeth; nid boddloni cywreingarwch, ond yn hytrach fel Paul a Barnabas, pan yr aethant i'r synagog, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr. Ni allaf byth anghofio ei hyawdledd. Yr oedd yn dra dedwydd yn ei ddull yn gosod allan y meddyliau cryfion oedd yn llanw ei enaid mawr yn nghyrhaedd y bobl, nes yr ymdeimlent fel pe byddent gartref ar yr aelwyd wrth ochr y tân. Gollyngai yr eloquence mawr fel ffrwd lifeiriol am ben cynnulleidfa, nes y byddai y dagrau yn llif yn llanw pob llygad. Ni allaf lai nâ chyfeirio at un tro neillduol mewn cymmanfa yn Llanerchymedd, rai blynyddau yn ol, ar y cae, am ddau o'r gloch, yn yr haf, yr hîn yn drymllyd, a'r gwrandawyr yn farwaidd. Yr oedd yr olwg arno cyn dechreu pregethu fel pe buasai yn dra anesmwyth; ái i lawr o'r, ac i fyuu i'r areithfa dro neu ddau, fel pe buasai ar ymdori o eisieu gollwng ei feddyliau allan. Daeth at y desk; edrychai yn o wyllt, fel yr arferwn ddywedyd, a'i