Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbryd wedi tânio, a'i feddwl wedi ymlenwi i'r ymylon. Darllenai ei destun yn gyflym ac yn hyf, "Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hyny ydyw un nefol." Gollyngodd y fath ddylif o ffraethineb am y nefoedd, nes yr oedd, cyn pen ugain mynud, fel pe buasai wedi swyno ein teimladau, a braidd na ddychymmygasem glywed y maes yn symud dan ein traed! Yr oedd efe ei hun yn ystyried y tro hwn yn un o droion hynotaf ei oes, canys bûm yn ymddyddan ag ef am y bregeth yn mhen blynyddau ar ol hyny. Yr wyf yn meddwl i'r bregeth hòno effeithio er daioni i'r enwad dros wlad Môn i gyd. Yr wyf yn cofio peth o ddull ei ddawn. Bûm rai gweithiau yn dychymmygu gweled comedy a tragedy yn ymryson am dano; mynai y flaenaf ef i'w osod wrth ochr Cicero, a mynai yr olaf ei gael a'i osod yn ymyl Demosthenes; ond ar y cyfan, byddwn yn meddwl mai y flaenaf a fyddai yn dadlu ei hawl decaf o hono. Yr oedd ei gydmariaethau a'i ddarluniadau yn dlws, yn naturiol, yn eglur, yn ysgafn, yn esmwyth, ac yn darawiadol. Ond Oh! "Wele yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, wedi tyuu ymaith o Jerusalem, ac o Judah, y proffwyd, y cynghorwr, a'r areithiwr hyawdl."

Ni allaf anghofio yr hyn a welais, yr hyn a glywais, a'r hyn a deimlais drwyddo. "Y mae efe wedi marw yn llefaru etto." A thra yr ydwyf yn dywedyd hyn, dymunwn ei fynegi, gan gofio, "Am hyny, na orfoledded neb mewn dynion;" "A'r hwn sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd." Yr oedd ei dalentau o'r fath ddysgleiriaf, ac yr oedd yn meddu y doniau goreu; a'r hyn oedd yn llathreiddio ei ddoniau yn benaf oedd, fod ganddo yr eneinniad oddiwrth y santaidd hwnw. Trwy ras Duw yr ydoedd yr hyn ydoedd.

Gwelodd Duw yn dda goroni ei lafur â llwyddiant mawr; gan hyny, dylem ddiolch am ei gael cyhyd. Etto, y mae yr amgylchiad hwn yn galw arnom i weddio ar i'r Arglwydd godi rhai i lanw y bylchau. Y mae yn alwad o gyd-ymdeimlad â'r eglwysi y llafuriai ynddynt, y gymmydogaeth y cyfanneddai ynddi, yr eglwysi Cymreig yn gyffredinol, ac yn enwedig y teulu a adawodd ar ei ol. Disgyned ei fantell arnynt; ac estyner iddynt hir oes, i fod yn offerynol i gysgodi y saint dani. Am dano ef, ennill oedd y cyfnewidiad iddo ef, ond colled fawr i ni. Ei iaith, wrth ymadael, oedd yn debyg i iaith y Gwaredwr, pan yn nesu at y groes: "Merched Jerusalem, nac wylwch o'm plegid i, ond wylwch o'ch plegid eich hunain ac oblegid eich plant." Y mae genym achos i lawenhau ei fod wedi ei ryddhau o bob gofid, a dianc uwchlaw trallod. Ond wele ni ar y maes. Beth yw eich dymuniad? Cael ei gymmeriad, cyn belled ag y dilynodd Grist, wedi ei argraffu yn ddwysach ar ein calon. Terfynaf, gan goffa iaith y Datguddiad: "Y maent hwy ger bron gorsedd—fainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml, a'r Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd—fainc a drig yn eu plith hwy."

Conwy, Mawrth 18, 1841. RICHARD PARRY.