Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoddes o'r neilldu. "Yfwch i fynu, yfwch i fynu Mr. W. (ebe'r gŵr,) i chwi gael un arall." "Na, yr wyf yn coelio fod hwn yn ddigon i mi i swper etto," ebe Mr. W., ac a ddechreuodd gynghori'r tafarnwr i roi y dafarn i fynu cyn i'r fasnach fyned yn warthus iawn yn ngolwg y wlad, &c. Dywedodd Mr. W. wrthyf y noson hono, ei fod yn meddwl ymuno â'r Gymdeithas Ddirwestol pan elai adref. Mi a gyfarfyddais ag ef eilwaith yn mhen oddeutu pum wythnos yn Ll—n—ll—f—d, ac efe a ofynodd i mi, "A wyt ti yn cofio am y glasied cwrw hwnw yn ?" Ydwyf, ebe finnau. "Dyna'r diwetha am byth i mi fel diod gyffredin." Craffais ar ddau beth neillduol ynddo ef y noson grybwylledig, sef, meddwl mawr, boneddigaidd, a gostyngedig, a pharodrwydd i hunan-ymwadu, er mwyn gwneuthur lles i ereill.

Pwllheli.R. P. GRIFFITHS.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Nis gallaf lai nâ theimlo yn ddwys wrth feddwl nad oes genym yn awr ond ceisio galw i'n cof un ag oedd mor ddiweddar yn llenwi cylch mor helaeth, a defnyddiol yn ein plith. Daethum yn adnabyddus o hono pan yr oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Gogledd Cymru, yr hon a gynnelid y pryd hyny yn Ngwrecsam. Cofus genyf fod ei bregethau nodedig, ac yn neillduol ei hyawdledd, a'i ddull priodol iddo ei hun yn eu traethu, yn tỳnu sylw ei wrandawyr y dyddiau hyny. Yn fuan wedi ei sefydliad yn y Wern, cefais yr hyfrydwch o gael ychydig gyfeill ach ag ef, ac fel y byddai yn hynod yn ei sylw o frodyr ieuainc, yn eu cynghori, a'u calonogi, rhoddodd i minnau rai cynghorion mewn perthynas i bregethu, ag sydd wedi aros yn fy meddwl hyd heddyw; sef, gofalu fy mod yn iawn ddeall fy nhestun—cadw golwg neillduol ar ei brif fater, a'r amcan penaf ynddo—ymdrecha at fod yn fedrus mewn tynu addysgiadau priodol oddiwrth yr athrawiaeth mewn ffordd gymhwysiadol at y gwrandawyr. Sylwais hefyd arno mewn cynnadledd gymmanfaol, pan wedi ei annog i roddi rhai cynghorion gyda golwg ar bregethu—yn dweyd am fod yn ofalus i gadw at feddwl priodol pob rhan o air Duw, gan ddywedyd, yn ei ddull, ag oedd mor briodol iddo ei hun, "Nad oedd yr hen Fibl un amser yn tòri i fynu;" ond fod digon o destunau ynddo i ddwyn pob mater gerbron ein gwrandawyr, heb fyned i lefaru allan o feddwl y testun. Bu y cynghorion uchod yn fuddiol i mi, ac y mae yn dda genyf eu coffâu er lles ieuenctyd ag a fydd etto yn dyfod i fynu at y gwaith mawr, yn nghyd â'r rhai ag sydd wrtho yn barod. Peth hynod amlwg yn ei nodweddiad, hyd y nod yn mlynyddoedd boreuaf ei weinidogaeth, oedd ei ofal dwys am achos yr Arglwydd. Gŵyr yr eglwysi ag oedd dan ei ofal am ei ymdrech a'i lafur, er lledaenu achos y Gwaredwr, ei deithiau mynych a meithion er talu dyledion yr addoldai; ac er fod ei berthynas â'r eglwysi hyny yn peri fod ei ofal a'i lafur yn