Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

benaf yn eu plith, a throstynt hwy; etto, teimlai yn gyffredinol dros yr achos crefyddol, ac ymdrechai hyd y gallai gyrhaedd i'w wasanaethu a'i lesâu yn mhob lle. Gallesid dweyd am dano yn nyddiau ieuengaf ei weinidogaeth, "Nad oedd yn byw iddo ei hun;" meddyliais lawer gwaith, nad oedd ei amgylchiadau ei hun yn cael fawr na dim lle ar ei feddwl, ond mai ei ofal mawr oedd byw i achos Duw; a gwyddom na chafodd ei adael heb i'r Duw ag yr oedd yn ei wasanaethu ofalu am dano yntau. Bu hefyd fel tad a brawd i'r myfyrwyr tra yr oedd yr athrofa yn gyfagos iddo yn Ngwrecsam, ac yn wir, ymwelai â hwynt yn fynych wedi ei symudiad o'r lle hwnw. Yr oedd ein hybarch athraw, y diweddar Barch. G. Lewis, D. D., yn wir hoff o hono. Pan y deuai i'r dref, wedi talu ei ymweliad â'n hathraw, rhoddai ei gyfeillach yn rhydd a siriol i'r myfyrwyr; cyrchem bawb yn dra awyddus i'r man lle y clywem ei fod, ac yn bur anfynych, os un amser yr ymwelai â ni, heb ganddo ryw beth pwysig i dynu ein sylw arno er ein gwir adeiladaeth, a byddai groesaw i ni osod o'i flaen unrhyw fater a ymddangosai yn anhawdd, neu yn ddyrus i ni, gwnai ei oreu bob amser i'w chwalu a'i egluro i'n meddyliau. Trwy ein bod yn llafurio yn ei gapeli bob yn ail Sabboth ag ef, yn gynnorthwyol iddo, byddem yn fynych yn cael yr hyfrydwch o lettya gydag ef, nos Sadwrn, neu nos Sabboth, a thrwy hyny yn cael bod yn dystion o'i weddiau taerion ar ein rhan. Cofus iawn genyf am ei weddi yn deuluaidd un boreu Sabboth drosof fi a'm cyd-fyfyrwyr; nid yw yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl a'm teimlad y pryd hyny wedi eu dileu hyd yr awr hon; ac y mae yn dra sicr genyf, mai nid pan y byddem yn bresennol yn unig y cofiai am danom, ond ein bod yn cael rhan helaeth yn ei weddiau yn wastadol; oblegid gwyddom fod y weinidogaeth ag oedd yn codi i fynu yn cael lle dwys ar ei feddyliau ef, fel un ag oedd mor helaeth yn ei ysbryd cyhoeddus, ac mor wresog yn ei gariad at achos yr Arglwydd. Hefyd, nid oedd neb ag a lawenhäai yn fwy nag ef yn ein cynnydd a'n llwyddiant mewn addysg, er bod yn ddefnyddiol yn ein hoes. Hawdd fuasai rhoddi enghreifftiau o hyny, oni bai eu bod yn arwain i gyfeiriadau rhy bersonol gyda golwg ar y rhai byw. Arderfyniad amser pob myfyriwr yn yr Athrofa, cynnelid cyfarfod neillduol rhyngddo ef a'i frodyr cyn ei ymadawiad i weddio dros eu gilydd, ac i gynghori y naill y llall; Mr. WILLIAMS a fyddai ein Cadeirydd bob amser ar yr achlysur hyny, ac wedi i bob brawd draethu y cynghor a fyddai ar ei feddwl i'r brawd a fyddai ar ymadael, ac iddo yntau roddi ei gynghorion iddynt hwythau a fyddai yn aros yn ol, yna rhoddai y Cadeirydd iddo ei gynghorion, a'i annogaethau difrifol, a therfynai y cyfarfod trwy weddi wresog a thaer ar ei ran. Nid peth hawdd a fyddai anghofio yn fuan y cyfarfod hwn. Yn y modd hyn yr oedd y caredigrwydd mwyaf, a'r cyfeillgarwch penaf yn bod rhwng y myfyrwyr a Mr. WILLIAMS dros y blynyddau a dreulient yn gymmydogaethol iddo; ac nid wyf yn cofio am y gradd lleiaf o oerfelgarwch yn neb o honom tuag ato, nag am un arwydd