Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I. Ni a gynnygwn rai ystyriaethau fel profion o fodoliaeth byd i ddyfod; y mae rhai wedi bod yn ei wadu yn mhob oes: yr oedd anffyddiaid yn amser Crist, y rhai a ddywedent, nad oes nac angel nac ysbryd, nac adgyfodiad, neu sefyllfa i ddyfod—y mae eu hiliogaeth yn y byd etto.

1. Gallem ystyried natur enaid fel prawf o hono. Bôd ysbrydol yw enaid; y mae bôd ysbrydol yn rhag-arwyddo byd ysbrydol, bod byd neu sefyllfa o'r un natur ag ef. Sylwedd defnyddiol (material) yw y corff, a byd defnyddiol yw y byd hwn. Y mae byd y corff, a'r corff ei hun, o'r un natur â'u gilydd. O'r byd hwn y cymmerwyd ei ddefnyddiau —oddiyma y mae yn cael ei gynnaliaeth—yn ei awyrgylch y mae yn anadlu o'r ddaearen y daw bara i gynnal ei galon—olew i beri i'w wyneb ddysgleirio, &c.; ac i'r ddaear fel y bu y dychwela yn y diwedd. Ond yr enaid nid yw oddiyma, nid o ddefnyddiau y byd isod hwn y cyfansoddwyd ef: y mae yn wahanol ei natur i bob peth a berthyn i'r byd yma; nid yw o'r "adeiladaeth yma;" estron o fyd arall ydyw, ysbryd ydyw, ac y mae hyn yn rhoddi ar ddeall i ni, fod byd ysbrydol. Sylwedd anweledig yw, yr hyn a ddysg i ni fod byd anweledig yn bod, o'r lle y daeth, ac i'r lle y dychwel etto.

2. Cynneddfau neu alluoedd yr enaid. Y mae yn gallu meddwl ac amgyffred rhyw gymmaint am fyd i ddyfod, yn gallu ei ddymuno, gobeithio, ofni, &c. Pe na fyddai y fath fyd yn bod, buasai yn well i ni fod o'r un cynneddfau â'r anifail, heb fedru amgyffred dim, na meddu un syniad am fyd ysbrydol. Gellir dysgu llawer o bethau i anifail, ond ni ellir dysgu dim iddo am fyd arall; ni ellir ei effeithio i feddwl, ofni, na gobeithio dim mewn perthynas iddo. Ond y mae "ysbryd mewn dyn," a ellir ei ddysgu am y byd hwnw, a ellir ei ddylanwadu â phethau ysbrydol ac anweledig; y gellir magu dymuniadau a gobeithion ynddo am dano. Pa ddyben rhoddi y cynneddfau a'r galluoedd hyn i ddyn, mwy nâ'r anifail, os nad oes byd arall iddo? A wnaed ef yn greadur â greddf, megys yn ei natur i ddymuno a gobeithio byw byth, i'r dyben o'i siomi yn y diwedd? Ni fyddai y fath dybiaeth yn gysson â doethineb a daioni y Creawdwr; pe felly, byddai wedi ymddwyn yn fwy caredig at bob creadur, nâ dyn. Y mae galluoedd, neu gynneddfau ei enaid, yn rhag brawf o fyd i ddyfod.

5. Llywodraeth foesol Duw dros y byd hwn. Ni byddai dyben i lywodraeth foesol, oni bai fod byd arall. Ni byddai dim o bwys yn ymddangos mewn da na drwg. Yn eu perthynas â byd i ddyfod, y mae pwysigrwydd yn perthyn i nodweddau dynion; os fel yr haera rhai personau yn Corinth, yr oedd pethau yn bod, pob peth yn darfod yn angeu, dyn yn gorphen ei daith—yn terfynu ei fodoliaeth yn awr marwolaeth—yn disgyn i'r bedd i aros yno byth yn darfod am dano fel anifail, &c., 66 Bwytawn, ac yfwn," medd Paul, os felly y mae yn bod;" "Canys y fory, marw yr ydym;" "Y fory," neu yn fuan "syrthio i ddiddymdra yr ydym." Nid oes pwys na gwerth mewn crefydd, Ac os yn y byd