Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yma yn unig y gobeithiwn yn Nghrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni." Yn dyoddef ein herlid a'n gorthrymu, a'n "lladd ar hyd y dydd," er mwyn Crist, ein "cyfrif fel defaid i'r lladdfa," gan "ddysgwyl adgyfodiad gwell;" nyni yw y ffolaf o bawb, os nad oes byd arall. Byd i ddyfod sydd yn argraffu gwerth ar grefydd; ac yn dangos drwg, niwed, a pherygl pechod; ac felly, yn dangos priodoldeb a chyssondeb sefydliad llywodraeth foesol.

4. Y mae ymddygiadau cyffredinol Duw tuag at ddynion yn y byd hwn, yn ein rhagddysgu fod byd arall, a gwadu byd i ddyfod, y mae anghyssondeb anamgyffredadwy yn y goruchwyliaethau hyn. Y mae y pechaduriaid gwaethaf ac annuwiolaf y rhai mwyaf hapus yma yn fynych. "Lluestai yr yspeilwyr yn llwyddiannus—diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi Duw." "Nid ydynt mewn blinder fel dynion ereill;" er eu bod wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawsder, yn dweyd yn uchel, yn gosod eu genau yn erbyn y nefoedd, trawsder yn gwisgo am danynt fel dilledyn, balchder wedi eu cadwyno," &c. Er hyn oll, "Nid ydynt mewn blinder fel dynion ereill;" saif eu llygaid allan gan frasder; ânt dros feddwl calon o gyfoeth. 'Dychwel ei bobl ef yma, a gwesgir iddynt ddwfr phiol lawn;" neu "gerydd yn dyfod bob boreu—baeddir hwynt ar hyd y dydd—cymmysgant eu diod ag wylofain —dadwina eu llygaid gan ofid," a'u "hwynebau yn fudrou gan wylo." Pa gyssondeb sydd yn hyn oll, os nad oes byd arall ar ol hwn i union; pethau, "i roddi i bob un yn ol ei waith." Ond ar y gred o fod byd i ddyfod, y mae yr holl oruchwyliaethau hyn yn ymddangos yn ddigon cysson. Ar yr ystyriaeth mai byd o brawf yw y byd hwn erbyn byd arall—byd i gospi y beius, a gwobrwyo y rhinweddol, y mae pob dyryswch yn cael ei symud ar unwaith.

5. Y mae genym air sicrach yr ysgrythyr ar y mater—tystiolaeth bendant Duw, am fodoliaeth y byd hwnw. "Diddymodd" yr Arglwydd Iesu "angeu, a dygodd fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy yr efengyl."

II. Natur y byd i ddyfod.

1. Byd ysbrydol ydyw. Byd yr ysbrydion—ysbrydion sydd yn byw ynddo ysbrydol yw pob peth yno—ysbrydol yw holl elfenau y byd hwnw—ysbryd yw Duw—ysbrydion yw yr angylion—ysbrydion dynion sydd yno yn bresennol; rhaid gwneyd y corff yn "gorff ysbrydol," i'w addasu, a'i gymhwyso i fyw yno—corff ysbrydol yw corff yr Arglwydd Iesu—cyrff ysbrydol fydd cyrff y saint yn yr adgyfodiad—a chyrff yr annuwiolion hefyd. Awyrgylch ysbrydol yw yr awyrgylch sydd yn ei amgylchynu, ac y mae yr holl drigolion yn ei sugno, ac yn ei anadlu. Ymborthi ar bethau ysbrydol y maent oll yno—goleuni ysbrydol, a thywyllwch ysbrydol yw ei oleuni a'i dywyllwch.

2. Byd ag y bydd rhyw helaethiad ac ëangiad rhyfedd ar gynneddfau a galluoedd dyn ynddo ydyw. Y mae yn natur yr enaid ymëangu; y