Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae yn cael ei wasgu yn y plisgyn, megys yn y byd hwn, yn gaeth, fel yr aderyn yn ei gell, (cage.) Pan ddryllia angeu ei gell, ac y caiff ryddid i ebedeg i'w fro a'i elfen briodol ei hun, fe ymëanga yn ei alluoedd a'i amgyffrediadau, fe dyfa, ac a gynnydda am byth. Edrych trwy ugolau ei gell y mae ar bethau ysbrydol yn bresennol, trwy "ddrych a dammeg o ran," ond "yno wyneb yn wyneb, yna yr adnabydda megys ei hadwaenir."

3. Pa beth bynag yw prif dueddfryd calon dyn yn y byd hwn, hyny fydd ef yn y byd hwnw. Ni effeithia y cyfnewidiad, neu y symudiad o'r naill fyd i'r llall, ddim ar anian foesol yr enaid. Pa un bynag ai at santeiddrwydd, ai at bechod, yr oedd bryd llywodraethol yr enaid yma, felly y bydd yno. Os caru Duw yma, caru Duw fydd yno, &c.

4. Byd ag y bydd pob un yn gweithredu i fynu i'w brif dueddfryd ydyw. Nid oes neb felly yma; yr un sant mor santaidd yn ei ymarweddiad ag y dymunai ei galon fod; yr un annuwiol mor gyflawn ddrygionus ag y mae tuedd yn ei galon i fod; ond daw pob un i fynu i'w farc yno, pob un yn cyrhaedd ei nod. Yr un attalfa ar ffordd y naill na'r llall i weithio allan i berffeithrwydd dueddfryd llywodraethol ei galon. Y mae attalfeuon, anfanteision, a rhwystrau yn y byd hwn, ar ffordd y naill a'r llall—"ewyllysio gwneuthur da, y drwg yn bresennol gyda mi, deddf arall yn yr aelodau," &c. Y mae attalfeuon ar ffordd gelyn Duw ynte, yn awr, i gyrhaedd ei nod. Gorchymynion a bygythion Duw yn gloddiau o'i flaen—argyhoeddiadau cydwybod—goruchwyliaethau rhagluniaeth—amgylchiadau ei fywyd yn ei ffrwyno yn aml; yr Arglwydd yn ei attal, fel yr attaliodd Laban ac Esau, rhag cyflawni llawer o ddrygau; ond yn y byd hwnw, bydd pob attalfa wedi ei symud oddiar ffordd y naill a'r llall, a daw pob un o honynt i fynu ag ansawdd ei galon.

5. Byd digymmysg ydyw. Byd cymmysglyd yw y byd hwn: cymmysgedd personau a nodweddau, a chymmysgedd pethau. Y mae cymmysgedd o bersonau a nodweddau ynddo—y rhai da yn mhlith y rhai drwg—Judas yn mhlith y dysgyblion—y morwynion ffol yn mhlith y call—y da a'r drwg yn byw yn yr un ardal, yn yr un heol, yn yr un teulu, cyd-fwyta wrth yr un bwrdd, cyd-gysgu yn yr un gwely, &c. Ond nid felly yno; wedi eu didoli, y rhai da o blith y rhai drwg—y "defaid oddiwrth y geifr"—yr un pechadur yn "nghynnulleidfa y rhai cyfiawn," na'r un cyfiawn yn nghynnulleidfa y pechaduriaid—" gagendor mawr wedi ei sicrhau" rhyngddynt a'u gilydd. Cymmysgedd pethau yma: cymmysgedd yn y personau; drwg yn aros yn y rhai goreu, rhyw bethau hawddgar a dymunol yn y rhai gwaethaf; ond byddant yn ddigymmysg yn y byd hwnw; un dyrfa yn dda ddigymmysg, a'r llall yn ddrwg ddigymmysg.

6. Byd o gosp a gwobr ydyw. Byd i unioni holl bethau ceimion y byd hwn. Bydd dylanwad y byd yma ar drigolion y byd hwnw byth. Yma y buont yn ffurfio eu nodweddau, yn gwneyd eu character i fynu;