Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a derbyn y bydd pob un yno, yn ol yr hyn a wnaeth yma, pa un ai da ai drwg fyddo; y rhai a wnaethant dda i adgyfodiad bywyd, a'r rhai a wnaethant ddrwg, i adgyfodiad barn."

III. Elfenau neu egwyddorion dedwyddwch ac annedwyddwch y byd anweledig.

1. Ansawdd foesol y galon. Dyma un elfen fawr sydd yn gwneyd i fynu ddedwyddwch y nefoedd, a thrueni uffern. Ni byddai y nefoedd yn nefoedd i galon ddrwg, lawn gelyniaeth yn erbyn Duw. Byddai y cyfryw yn druenus ac annedwydd yno, yn gymmaint felly ag yn uffern ei hun. Nid y nefoedd, o'ran lle yn unig, nac yn beuaf, sydd yn gwneyd y nefolion yn ddedwydd; ac nid uffern, o ran lle yn benaf, sydd yn gwneyd ei phreswylwyr yn druenus. Ni fyddai calon rasol yn annedwydd yn uffern, ac ni fyddai calon ddrwg yn ddedwydd yn y nefoedd.

2. Tystiolaeth a barn cydwybod. Cydwybod dda a fydd yn gwneyd i fynu ran o ddedwyddwch y nef; a chydwybod ddrwg, cydwybod yn edliw, yn cyhuddo, yn condemnio, ydyw y pryf nad yw yn marw yn mynwes yr enaid colledig yn uffern. Colli tystiolaeth gymmeradwyol y gydwybod, fyddai colli un elfen o ddedwyddwch y nefoedd; a phe collid y teimlad oddiwrth gydwybod yn uffern, byddai un llai o elfenau yn ei thrueni. Y mae pob un yno yn adyn erlidiedig gan ei gydwybod ei hun, ac yn cael ei huntio ganddi yn ddibaid, heb fodd byth i ymguddio rhagddi, na dianc o'i chyrhaedd.

3. Adgofiant o bethau a aethant heibio. Diau y bydd y cof yn cyfranu llawer at ddedwyddwch y saint yn y nef, Cofio geiriau y Bibl— cofio yr addewidion, a'r blas a gafwyd arnynt ar y daith—cofio y pregethau—cofio amser ac amgylchiadau y dychweliad at Dduw—cofio y manau y buwyd yn ymwneyd â Duw mewn gweddi. Bydd yn felus gan Jacob gofio Bethel a gweledigaeth yr ysgol i dragywyddoldeb; fe gofia gyda phleser byth am y noson hòno y bu yn ymdrechu â'r angel am y fendith. Cofio melus am droion y daith.

"Ar fryniau Caersalem caf weled
Holl daith yr anialwch i gyd;
Pryd hyn bydd holl droion yr yrfa
Yn felus yn llanw fy mryd."

Bydd cofio yr ochr arall yn cynnyddu y trueni yu uffern, neu bydd yn un o elfenau ei thrueni. O! pe gellid dileu neu ddinystrio y cof, byddai yn llinaru angerdd y fflam. "Ha, fab! coffa i ti." Cofio dydd grascofio geiriau y Bibl a ddarllenwyd ac a ddysgwyd yn yr Ysgol Sabbothol, fydd fel cleddyf yn myned trwy yr enaid! Cofio pregethau, cynghorion, rhybuddion, gweddiau; pa fodd y gall yr enaid ddal heb ymddryllio wrth feddwl am danynt? Cofio fod yr iachawdwriaeth wedi ei gwrthod a wna uffern yn uffern yn wir.

4. Un arall o elfenau dedwyddwch a thrueni y byd anweledig, ydyw yr adnabyddiaeth fydd gan y preswylwyr o'u gilydd. Y mae dedwydd-