wch cymdeitnas yn dibynu, i raddau helaeth, ar adnabyddiaeth yr aelodau o'u gilydd. Felly y bydd cymdeithas wynfydedig y nef yn cael ei chylymu wrth ei gilydd gan yr adnabyddiaeth hon. Rhai na welsant wynebau eu gilydd erioed o'r blaen, adnabyddant naill y llall ar yr olwg gyntaf; y naill yn adrodd ei hanes i'r llall:
"Yno mi gaf ddweyd yr hanes,
P'odd y dringais, eiddil gwan,
Drwy afonydd, a thros greigiau
Dyrus, anial, serth, i'r lan," &c.
Ond yn neillduol, y rhai oeddynt adnabyddus i'w gilydd yn y byd hwn, a fuant gymhorth i'w gilydd i fyw yn dduwiol, yn helpu eu gilydd ar y daith, cyfarfod eu gilydd yno, adnabod eu gilydd, a chyd-ymddyddan â'u gilydd am yr "hen amser gynt." "Er mwyn yr amser gynt," byddant yn yfed at eu gilydd yno. Ac uwchlaw y cwbl, gweled ac adnabod Iesu, y Brawd hynaf, cael cymdeithasu ag ef wyneb yn wyneb.
Ond och! pa fath ychwanegiad fydd hyn at drueni uffern; gweled ac adnabod y rhai a fuant yn cyd-bechu, y rhai a fuasent yn cyd-gynnorthwyo i ddamnio eu gilydd yn y byd, yn cadarnhau breichiau eu gilydd mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, yn cyfarfod eu gilydd yn uffern, yn adnabod eu gilydd yno, yn melldithio eu gilydd. Bydd yr adnabyddiaeth o'r naill y llall yn un elfen fawr o'u hannedwyddwch. "Rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn."
5. Cymmeradwyaeth ac anghymmeradwyaeth hefyd sydd un arall o'r elfenau hyn. Pob un yn y nefoedd yn teimlo ei fod yn gymmeradwy gan bawb yno; pawb yn gymmeradwy gan eu gilydd; a phob un yn gwybod ac yn teimlo hyny. Bydd y teimlad hwn yn esmwythyd ac yn ddyddanwch i bob meddwl yno; dim un meddwl cul, eiddigus, yn y naill am, a thuag at y llall, a phob un yn llawn ymwybodol o hyny.
Yr ochr arall, pawb yn uffern yn anghymmeradwy gan eu gilydd, a chan bawb; pob un yn gwybod ac yn teimlo hyny. "Nid da gan neb no honof; yr wyf yn wrthodedig gan bawb." Yr oedd yr uffern yma yn dechreu cynneu yn mynwes Voltaire yr infidel ar ei wely marwolaeth. "Yr wyf yn wrthodedig ac anghymmeradwy gan Dduw a dyn," meddai yr adyn hwnw.
6. Cymdeithas hefyd sydd un o elfenau dedwyddwch a thrueni y byd a ddaw; ac yn wir, y mae felly yn y byd hwn. Cymdeithas yn ol natur ac ansawdd teimladau y naill tuag at y llall. Meddyliwch am deulu ag y byddai ei, holl aelodau yn caru eu gilydd, perffaith ewyllys da rhwng y naill a'r llall, pob un yn myfyrio y ffordd oreu i wneyd eu gilydd yn ddedwydd a chysurus; pa fath gymdeithas wynfydedig? nefoedd fechan ar y ddaear; "gwynfa" wedi ei chael yn ol! Tybiwch am dref felly, ei holl drigolion o'r ansawdd calon, a'r teimlad yma tuag at eu gilydd; nefoedd ar y ddaear fyddai; gwlad felly fyddai baradwys Duw; gwlad felly yw y nefoedd; cymdeithas felly yw y gymdeithas