Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hòno; dedwyddwch y naill yn ddedwyddwch i'r llall; pob un am wneyd eu gilydd yn ddedwydd; cariad ac ewyllys da perffaith yn eu rhwymo i'w gilydd. "Cariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd." Meddyliwch, o'r tu arall, am deulu ag y byddai eiddigedd yn mynwes y naill tuag y llall, yn casâu eu gilydd, yn cenfigenu wrth eu gilydd ; pob un yn myfyrio pa fodd i ddrygu, clwyfo, a niweidio y llall; pa fath gymdeithas? Uffern fechan ar y ddaear fyddai tref felly. Gwlad o ddynion felly, pa fath le ofnadwy a fyddai gwlad felly? Cymdeithas, pe priodol ei galw yn gymdeithas, felly, ydyw uffern. Yno y mae pawb yn llawn eiddigedd, malais, a chenfigen, tuag at eu gilydd, yn casâu eu gilydd, yn rhegu ac yn melldithio eu gilydd, yn myfyrio pa fodd i ddrygu ac annedwyddu y naill y llall; pob un yn cyfranu at drueni arall, ac yn helpu eu gilydd i wneyd y lle yn annedwydd.

7. Un arall o'r elfenau hyn, ydyw yr olwg a geir ar nodwedd a goruchwyliaethau Duw. Bydd ei nodwedd a'i oruchwyliaethau wedi eu dadlenu ger eu bron yn y byd hwnw. Bydd yr olwg ar ei gyfiawnder, ei santeiddrwydd, ei gariad, a'i ras, fel afon bywyd, yn rhedeg drwy y nefoedd, a bydd y saint yn ymddifyru byth ar ei glànau, yn yfed eu dedwyddwch o'i dyfroedd, yn ymddigrifu yn dragywyddol yn ngogoniant natur, priodoliaethau, llywodraeth, ac iachawdwriaeth eu Duw. Yr ochr arall, bydd hon fel afon danllyd yn rhedeg drwy uffern. Yr olwg ar nodwedd Duw, a'i oruchwyliaethau, yn llenwi pab enaid â phoen ac euogrwydd. Yr olwg ar ei nodwedd a'i oruchwyliaethau ef, yn condemnio eu nodwedd a'u bywydau hwy. Duw yn ei gyfiawnder, ei burdeb, yn ei dosturi a'i ras, wedi ei ddadlenu o flaen eu llygaid, wedi i ddydd gras ddarfod arnynt. Teimlant ei bresennoldeb yno byth, ac ni bydd modd dianc yr olygfa.

8. Cymmeradwyaeth ac anghymmeradwyaeth Duw; neu ei ewyllys a'i ffafr o un tu, a'i soriant a'i anfoddlonrwydd o'r tu arall. Gorchest y Cristion yn awr yw bod yn "gymmeradwy ganddo ef." Nef yn yr enaid yw teimlad o ewyllys da Duw: "Ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni." Wedi eu sefydlu am byth yn y teimlad a'r mwynhad o hono. Eu huffern ar y ddaear oedd colli y mwynhad hwn: "Cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus." Ond wedi myned yno, byddant yn ei fynwes ef, gerbron ei wyneb: "Fel un yr hwn y dyddana ei fam ef, felly y dyddanaf ti chwi." Nid oes neb a all ddyddanu y plentyn fel y fam; anniddig ydyw, er pob tegan a phob triniaeth, nes cael y fam. Pan y mae y fam yn dyfod adref, y mae yn achwyn ei gam iddi, a hithau yn dyddanu, "A ddarfu i'th fam dy adael, fy anwylyd? A ddarfu iddynt wneyd cam â'm plentyn? Wel, wel, ni wna dy fam dy adael mwyach, na wna fam." Y mae y plentyn wrth ei fodd wedi cael ei fam, a chaelfy fron: "Fel un yr hwn y dyddana ei fam ef." Wedi myned adref, dweyd yr hanes a'r achwyn, bydd yno ddyddanu: "Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddiwrthyt megys ennyd