Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wydd, yn mhob oes a gwlad, ydoedd codi dynion o sefyllfaoedd a dospeirth isaf cymdeithas i'r swyddau a'r graddau uchaf mewn defnyddioldeb yn ei dŷ a'i deyrnas—gwneuthur tlodion y ddaear yn bendefigion ei bobl; rhai bychain y byd yn fawrion yn Sïon. O'r cawell brwyn cuddiedig yn hesg yr afon y cofododd Moses ei was, i fod yn waredydd ac arweinydd i'w bobl. "O gorlanau y defaid, ac oddiar ol y defaid cyfebron," y cymmerth Dafydd, ac y "daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth." "O fysg bugeiliaid Tecoa" y galwodd Amos i fod yn broffwyd. O bysgotwyr tlodion môr Galilea y gwnaeth Crist ei apostolion: o'r sefyllfa a'r alwedigaeth waelaf hon y dyrchafodd efe y dynion hyny i'r swydd a'r sefyllfa uchaf o anrhydedd ac ymddiried y gosodwyd dynion erioed ynddi. Yn gyffelyb y mae wedi gwneuthur o ddyddiau yr apostolion hyd heddyw. Yn nghyffiniau Trawsfynydd, yn nghanol mynydd-dir Cymru, y cododd ac yr addurnodd efe WILLIAMS â doniau a thalentau a'i gwnaeth yn un o'r ser dysgleiriaf a lawyrchodd yn ffurfafen eglwysig y Dywysogaeth yn ei oes.

Anfantais fawr er cael Cofiant teilwng am ein gwrthddrych hyglod ydyw, ei fod heb adael dim defnyddiau tuag ato o'r eiddo ei hun, gan nad oedd erioed wedi arfer cofnod-lyfr, yr hyn sydd yn ddiau yn fawr golled. Nid oedd ynddo nemawr iawn o duedd at ysgrifenu, ac yn enwedig am dano ei hun. Arferai nodi rhai gwyr o enwogrwydd a theilyngdod mawr yn yr areithfa, yn Nghymru a Lloegr hefyd, ac y buasai yn garedigrwydd â hwy pe cadwesid y pin a'r papur, wasg allan o'u cyrhaedd, ac na bydd gan y rhai a ddarllenant eu gwaith, ag na chawsant erioed y fantais o'u clywed, ond tybiau isel iawn am eu galluoedd a'u talentau: a meddyliai y buasai efe ei hun mor waeled â'r gwaelaf o honynt, pe cynnygiasai ymddangos i'r byd yn ysgrifenydd.

GANWYD MR. WILLIAMS

Mewn lle o'r enw Cwmhyswn (Cwm-y-swn, ond odid) ganol, yn mhlwyf Llanfachreth, swydd Feirion. Enwau ei riaint oeddynt William a Jane Probert, neu ab Robert; yr oeddynt yn dal tyddyn o dir, a gair da iddynt yn y gymmydogaeth am hynawsedd a gonestrwydd. Yr oedd ei fam yn aelod dichlynaidd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Nid yw'n hysbys ddarfod i'w dad erioed ymuno mewn proffes gydag un blaid grefyddol, er ei fod yn wrandawr cysson o'r efengyl: