arferai gadw dyledswydd deuluaidd yn rheolaidd. Bu iddynt saith o blant, o'r rhai y mae pedwar etto yn fyw, a thri wedi meirw. WILLIAM, gwrthddrych y Cofiant hwn, ydoedd y chweched plentyn. Y brawd a'r chwaer a fuant feirw o'i flaen oeddynt aelodau eglwysig, un gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a'r llall gyda'r Annibynwyr, y ddau, yn ol pob arwyddion, yn meddu grym duwioldeb.
Yr oedd WILLIAM, er yn blentyn, yn hynod ar y plant ereill, o ran ei dymher lawen, fywiog a chwareüus, fel yr arferai ei dad ddywedyd yn aml am dano, na wyddai yn y byd pa beth i'w feddwl o hono, a'i fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant y gymmydogaeth; ac yn wir, felly y bu, ni fagwyd o'r blaen ei gyffelyb yn yr holl ardaloedd hyny, nac ar ei of ychwaith, hyd yma.
Dygwyddodd iddo, pan oedd oddeutu tair-arddeg oed, fyned i wrando Mr. Rees Davies, yn awr o Saron, swydd Gaerfyrddin, yn pregethu, mewn lle a elwir Bedd-y-Coedwr, pryd yr ymaflodd y gwirionedd gyda nerth ac awdurdod mawr yn ei feddwl. Cyn ei fod yn bedair-ar-ddeg, ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Pen-y-stryd, Trawsfynydd, y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol y diweddar Barch. W. Jones. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod eglwysig cyn ei fod yn bymtheg, yr hyn oedd beth tra anghyffredin yn y dyddiau hyny. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn, diwyd, ac ymdrechgar gyda moddion gras: anfynych iawn y byddai na phregeth na chyfarfod gweddi, na chymdeithas grefyddol mewn un man yn y gymmydogaeth heb ei fod ef yno. Yr oedd arno gryn ofn cael ei gymhell i fyned i weddi yn gyhoeddus yn y teulu neu mewn cyfarfod, o herwydd, fel y dywedai lawer gwaith wedi hyny, y buasai y plant ereill, y teulu, a'r gymmydogaeth yn dysgwyl iddo fyw fel sant perffaith byth wedi hyny. Pa fodd bynag, un noson, pan oedd wedi aros ar ei draed gyda'i fam, wedi i ereill o'r teulu fyned i'w gwelyau, aeth hi i weddi gydag ef, ac wedi terfynu, dywedodd wrtho, "Dos dithau dipyn i weddi, Will bach;" yntau a aeth: yr oedd ei frawd hŷn nag ef yn dygwydd bod yn effro, ac yn clywed, ac edliwiai iddo drannoeth, gan ei alw "Yr hen weddiwr." "Yr oedd arnaf beth cywilydd," meddai, "ond bu arnaf lai o ofn a chywilydd byth wedi hyny."
Bu mewn trallod a gwasgfa nid bychan o ran ei feddwl yn nechreu ei grefydd. Arferai ddywedyd, na wyddai yn y byd beth a wnaethai iddo ei hun, oni buasai Aberth y groes.