Cafodd waredigaeth hynod tua'r amser hwn. Pan yn torri coed yn Penybryn, Llanfachreth, syrthiodd pren arno, a drylliodd ei het yn chwilfriw, ond ni phrofodd ef unrhyw niwed. Gwnaeth y tro argraff ddwys ar ei feddwl, a chrybwyllai yn aml am dano gyda diolchgarwch. Pethau crefydd oeddynt destunau gwastadol ei ymddyddanion gyda'i gyfeillion; a chofia y rhai o honynt sydd etto yn fyw am ei ymholion a'i sylwadau gyda hiraeth a llawenydd.
Sylwodd yr eglwys arno yn lled fuan, a deallodd fod ei gynnydd prysur mewn gwybodaeth, doniau, a rhinweddau Cristionogol, yn rhag-arwyddo iddi, bod WILLIAM bach i ddyfod yn WILLIAMS mawr; ei fod yn llestr etholedig dan rag-barotoad i waith mawr y weinidogaeth; ei fod yn dechreu magu esgyll ag oeddynt ryw ddiwrnod i'w godi oddiwrth y ddaear a'i galwedigaethau, i "ehedeg yn nghanol y nef," gyda'r "efengyl dragywyddol;" ac felly, cyn ei fod yn bedair-ar-bymtheg oed, annogodd ef i ddechreu pregethu.
Pan soniwyd gyntaf wrtho am bregethu, yr oedd am beth amser megys wedi ei orthrechu gan gymmysg deimladau o ofn a llawenydd. Daeth amheuon am ei gyflwr, a'i alwad i'r swydd oruchel o bregethu yr efengyl, i bwyso yn drwm iawn ar ei feddwl; ond wrth ddarllen ei Fibl, a "Hall's Help to Zion's Travellers," a thaer weddio am oleuni ac arweiniad Dwyfol, daeth i'r penderfyniad, fel y dywedai, i wneuthur ei oreu dros ei Dduw, ac na chai byth ei feio am hyny, beth bynag; ond os byddai iddo guddio ei dalent yn y ddaear, y byddai yn sicr o gael ei alw i gyfrif a'i gospi. Felly, wedi peth petrusder, ymaflodd yn y gwaith, a phregethai yn Pen-y-stryd, ac mewn tai yn y gymmydogaeth, gyda mawr dderbyniad a chymmeradwyaeth. Nid oedd wedi cael nemawr ddim ysgol, ond dysgasai ddarllen Cymraeg er yn lled ieuanc. Nid oedd ond ychydig o lyfrau Cymreig, ag oeddynt o werth eu darllen, i'w cael y pryd hwnw. Y llyfrau a hoffai fwyaf, heblaw y Bibl, oeddynt Eliseus Cole ar "Ben-Arglwyddiaeth Duw," a "Hall's Help to Zion's Travellers," a grybwyllwyd o'r blaen, y rhai oeddynt wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yr oedd yn neillduol hoff o'r olaf. Yr oedd ei chwaer Catherine yn cyd-ddechreu proffesu ag ef, ac yr oeddynt yn hynod o hoff o'u gilydd. Byddai ef yn arferol o fyned, â'i lyfrgell fechan gydag ef, o'r neilldu i le dirgel, oddiar ffordd ei dad; a phan y deuai holi am dano i gyflawni rhyw swydd neu neges, megys porthi neu ddyfrhau yr anifeiliaid, rhedai ei