Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae eu gobeithion hwythau am danynt wedi gwanhan o'r diwedd. Fe baid yr eglwys â gweddio drostynt; y rhai fyddant arferol o'n hannog a'u cymhell a dawant wrthynt, ac a'u rhoddant i fynu. Ha! hen wrandawyr yr oedi, go ddifrifol, onidê, eich bod wedi lladd nerth yr eglwys i weddio trosoch—wedi lladd grym y rhai a fyddent arferol o'ch cynghori, fel nad oes ynddynt nerth mwyach—wedi siomi dysgwyliadau angylion, fel y mae eu hyder am eich dychweliad byth yn wanach o lawer nag y bu! Prin y mae ganddynt obaith erbyn hyn, y cânt y newydd am eich dychweliad chwi i'w adrodd, ac i fod yn destun llawenydd yn y nefoedd!

IV. Y mae yr ymddygiad yn effeithio yn ddrwg ar ereill. Y mae y rhai hyn yn sefyll ar borth yr eglwys; y mae rhywrai ereill yn sefyll y tu ol iddynt, yn dysgwyl eu gweled hwy yn myned i mewn, i gael iddynt hwythau le i nesu yn mlaen. Ni ŵyr y bobl yma yn y byd pa faint o ddrwg y maent yn ei wneuthur i ereill. Y mae llygaid llawer arnynt, ac y maent yn gwneyd cysgod ac esgus o honynt. "Hen wrandawyr cysson am flynyddau lawer," meddant; "y maent hwy wedi gwrando, ac yn gwybod llawer mwy nà ni, paham na baent hwy yn grefyddol? Os oes rhyw bwys mewn arddel Crist, paham na wnaent hwy? ac os nad ydynt hwy yn gweled hyny yn anghenrheidiol, paham y dysgwylir i ni? Y maent wedi gwrando mwy nâ ni, a phaham na allwn ni fod yn dawel, tra y byddont hwy yn ddigrefydd." Rhwystro ereill! damnio ereill! sefyll rhwng eneidiau a drws yr arch! attal ereill i'r noddfa! cuddio gwerth crefydd o olwg ereill! Trwm iawn eu gweled eu hunain yn oedi, eu gweled yn yml y nefoedd, yn yml teyrnas Dduw, heb fyned i mewn; ond y mae rhywbeth yn drymach yn yr ystyriaeth fod rhywrai ereill yn aros yn eu cysgod. Y maent fel tarianau iddynt rhag i saethau y weinidogaeth eu cyrhaedd. Y maent ar ein ffordd i gael gafael ynddynt. Y maent yn cysgu yn dawel o'r tu ol iddynt. Ni ŵyr yr oedwr yn y byd pa nifer o eneidiau y mae yn ddamnio gyda'i enaid ei hun,

V. Y mae yr oedwr yn temtio y diafol i'w demtio ef. Y mae, wrth gloffi, addunedu, hanner penderfynu, yn dweyd wrth Satan megys, "Paid a fy rhoddi i fynu; nid wyf wedi llawn benderfynu; ni wn yn iawn beth a wnaf," &c. Pan y mae ymgeisydd, ar amser etholiad, yn cyfarfod â dynion fel hyn, wrth ymofyn pleidleiswyr, y maent yn dywedyd, "Ni a alwn gyda chwi etto; peidiwch chwi ag addaw i'r ochr arall hyd nes wedi i ni gael eich gweled, beth bynag "O'r goreu," medd y dyn, "gelwch chwithau." Erbyn galw y tro drachefn, y maent yn cael y dyn yn anmhenderfynol, y maent yn cael eu temtio i alw eilwaith gydag ef. Pe buasai yn rhoddi ateb uniongyrch a phenderfynol yn y dechreu, cawsai lonydd o hyny allan. Felly y mae yr oedwr gyda y diafol, aros yn anmhenderfynol. "Mi a alwaf etto," medd Satan, "paid a phenderfynu yn union; cymmer amser i