Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ystyried." "O'r goreu," medd yr oedwr, "galw dithau, ynte; nid wyf wedi llawn benderfynu gadael dy wasanaeth; nid wyf yn benderfynol i fyned ar ol Mab Duw; y mae genyf ryw fwriadau i wneyd hyny, weithiau, ac yn benderfynol hefyd i wneyd hyny rywbryd, ond nid wyf wedi penderfynu ar yr amser." Dyna gymmaint sydd ar y diafol eisieu. Y mae yn ddigon boddlon i'r dyn benderfynu ar grefydd rywbryd, ond iddo oedi yr amser presennol. Y mae yr oedwr fel hyn yn cadw y diafol yn agos ato, yn temtio y temtiwr ei hunan i'w demtio ef. Un ateb penderfynol a fuasai yn ei yru ar ffo—fuasai yn diarfogi ei demtasiynau— yn tori ei rym i demtio. "Yr wyf wedi penderfynu, Satan, i adael dy wasanaeth yr wyf wedi rhoddi fy mhleidlais i Iesu mawr—ei eiddo ef ydwyf mwy. Dos ymaith, Satan; nid yw o un dyben i ti alw gyda mi ar yr achos hwn." "Gwrthwynebu diafol" fuasai hyn. Oud temtio y diafol y mae yr oedwr.

VI. Y mae yr ymddygiad yn tristâu yr Ysbryd Glân, ac yn fforffetu ei ddylanwadau. Y mae yr oedwr yn temtio yr Ysbryd Glân oddiwrtho, fel y mae yn temtio yr ysbryd aflan ato. Eiddo Satan ydyw, tra ar y tir hwn, ac y mae arno ofn ei golli; felly y mae yn ddyfal iawn gydag ef i gadw meddiant o hono. Y mae yr Ysbryd Glân am ei gael o'i feddiant, ei gael at Grist; ac y mae ei waith yn bwriadu ac yn oedi, yn addaw ac yn cloffi, yn aros yn hir yn anmhenderfynol, yn ei dristâu, yn tueddu i beri iddo adael llonydd iddo. "Nid byth yr ymryson ag et; nid yn dragywydd." Unwaith y gadawo yr Ysbryd Glân ef, y mae pob gobaith am ei ddychweliad a'i iachawdwriaeth yn darfod.

VII. Os unwaith y collir argyhoeddiad, annhebyg iawn y daw yn ol drachefn. Wedi i'r mwynder unwaith ymado, nid tebyg iawn ydyw y ceir ef yn ol eilwaith. Teimladau crefyddol wedi darfod o'r galon, odid fawr y ceir hwynt byth wedi hyny; dagrau wedi sychu i fynu. Y mae natur yn dysgu rhywbeth tebyg i hyn. Peth anghyffredin iaw ydyw gweled pren yn blodeuo ddwy waith yr un tymhor. Y mae y cae gwenith tua chanol Mehefin yn dyfod i ryw adeg dyner iawn; pan y mae wedi dyfod i'w flodeu, a'r blodeu yn aeddfedu, y mae wedi dyfod i adeg ag y bydd yn gogwyddo ryw ffordd neu gilydd, naill ai at ddwyn ffrwyth, neu at ddiffrwythdra. Ni effeithiai gwynt oer nemawr iawn arno cyn hyn; ond yn awr, dichon i un gawod o hono fyned ar draws y gwenith yn ei flodau, a gwywo ffrwyth y tymhor, gwenwyno y blodau cyn iddynt droi i ffrwyth. Ni effeithiai gymmaint arno wedi i'r gronyn ddechreu ymffurfio; ond yr adeg dyner ydyw y pryd y mae ar droi Felly blodau y coed ffrwythau. Y mae rhyw adeg fel hyn ar gyflyrau gwrandawyr yr efengyl; gwelir blodau dychweliad yn tori allan yn ddagrau dros y gruddiau, yn eu dyfalwch a'u difrifoldeb dan y weinidogaeth; y maent yn dyfod i ryw adeg, o'r diwedd, fel y cae gwenith y mae ar droi ryw ochr neu gilydd; ac os o ochr diffrwythdra y try ei gyflwr yn yr adeg hon, odid fawr y gwelir blodau arno mwy—y gwelir