Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arwyddion gobeithiol o ddychweliad arno drachefn. Y mae yn troi adref o ryw oedfa yn yr adeg yma, wedi oedi dychweliad; yr oedd llais uwch ei ben bob cam yn gwaeddi, "Na thyfed arnat ffrwyth byth mwyach."

VIII. Argyhoeddiad, unwaith wedi gadael y cyfarfod, a edy dyn yn galetach nag erioed o'r blaen. Y mae dosbarth fel hyn i'w cael. Argyhoeddiad wedi gadael y gydwybod; y mae hi wedi ei serio megys â haiarn poeth. Mae yn anhaws menu ar y galon yn awr nag a fu erioed o'r blaen. Medr y bobl hyn ddal pob gweinidogaeth, fel y ceryg, a'u hwy nebau fel y gallestr; eu calonan yn galetach na chraig. Y llygaid a welwyd unwaith yn ffynnonau o ddagrau, ydynt yn awr mor syched â mynyddoedd Gilboa—argyhoeddiadau wedi eu gadael—yr Ysbryd Glân wedi ei dristâu, a'r galon wedi caledu.

CASGLIADAU.—1. Y mawr bwys o fagu a chroesawi pob argyhoeddiad yn y meddwl. Dyma hadau dychweliad, hadau crefydd a bywyd tragywyddol; os cânt gyfiawnder, hwy a ddygant ffrwyth; os cânt eu croesawi, hwy a derfynant mewn dychweliad buan at Dduw.

2. Na ddiystyrwch "ddydd y pethau bychain." Afresymol dysgwyl afalau ar y pren wedi ysgwyd y blodan ymaith. Os tarewir y plant bach wrth y meini, ni wiw dysgwyl cenedl o ddynion. Os lleddir argyhoeddiadau bychain, ofer dysgwyl rhai cryfion, dysgwyl ffrwyth mewn dychweliad. O! pa fodd yr edrychi yn y farn ar y babanod a darew. aist wrth y meini? ar yr argyhoeddiadau a leddaist? Gofynir eu gwaed oddiar dy law.

3. Gofaled eglwys Dduw am y bobl hyn, rhag iddynt farw yn yr enedigaeth—help llaw iddynt. Trwm iawn os bydd yr enaid farw o eisieu help.

PREG. III.—Y DDWY FFORDD; Y FERAF A'R HWYAF.

ECSOD. XIII, 17, 18.—" A phan ollyngodd Pharao y bobl, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos; oblegid dywedodd Duw, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft. Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch," &c.

DALIODD Pharao ei afael yn hir iawn yn y bobl. Yr oedd Duw wedi cymmeryd gafael ynddynt mewn cyfammod i fod yn bobl iddo ef. Yr oedd Pharao wedi cymmeryd gafael ynddynt mewn trais, i fod yn gaeth-weision iddo yntau. Yr oedd yr Arglwydd wedi dyfod yn awr i gymmeryd gafael ynddynt, i'w gwaredu o law Pharao. Wedi curo Pharao, nes y gollyngodd ei afael o'r diwedd, yn awr yr oeddynt yn myned i gychwyn o'r Aifft, a Duw o'u blaenau, yn Arweinydd iddynt; y dydd mewn colofn gwmwl, a'r nos mewn colofn o dân. Ni arweiniodd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos. Yr oedd ffordd fer o'r Aifft i Ganaan trwy wlad y Philistiaid; nid oedd uwchlaw taith pedwar neu bum diwrnod o ogleddbarth yr Aifft i ddeheubarth