Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gloch mewn un ystafell, a phen y llinyn a'i rhydd ar waith mewn ystafell arall. Gallai na bydd swn y gloch i'w glywed yn ystafell y llinyn, ond clyw pawb hi yn ei hystafell ei hun. Cydiodd Moses a thynodd yn nerthol yn y llinyn ar làn y Môr Coch, ac er nad oedd neb yn yr ystafell isod yn clywed nac yn gwybod, yr oedd y gloch yn canu yn uwch nag arferol yn yr ystafell uchod, nes cynhyrfu yr holl le—" Paham y gwaeddi arnaf?"

Adfywiad crefyddol.

TYBIAI yr henafiaid gynt am y gwefr-hylif (electricity) mai rhywbeth i fynu yn yr awyr ydoedd, ac y gallesid cael peth o hono i lawr i'r ddaear ar amser mellt a tharanau, ond cael offeryn priodol i'r pwrpas. I'r dyben hwn ffurfiodd Dr. Franklin farcutan papur, a gollyngodd ef i fynu ar ystorm o fellt a tharanau, a llwyddodd yn ei amcan i gael peth o'r hylifi wared; ond wedi dyfod yn fwy cyfarwydd mewn gwybodaeth, deallwyd fod y gwefr-hylif i'w gael unrhyw bryd, ei fod yn wasgaredig yn yr awyr o'n deutu, ac nad oedd ond eisieu arfer moddion priodol er ei gasglu yn nghyd, y gellid ei gael bob amser. Yn gyffelyb yr ydym ninnau wedi arfer meddwl am adfywiadau crefyddol, mai pethau rhyw dymmorau neillduol ydynt, ac nas gellir eu cael nes y dygwyddo eu tymmor ddyfod, fel ystorm o fellt a tharanau; ond pe buasem yn deall Bibl yn well, y mae yn ein dysgu mai peth yn ymyl ac yn nghyraedd yr eglwys bob amser ydyw adfywiad, ac nad oes dim ond eisiau cael yr eglwys i deimlo, i gredu, ac arfer y moddion gosodedig, y byddai yn sicr o'i gael y naill amser fel y llall,—"Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear, am ddim oll, pa beth bynag a ofynont gan y Tad yn fy enw i, efe a fydd iddynt." "Pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Ysbryd Glân i'r sawl a'i gofynant ganddo."

Y mae yr eglwys, os bydd yn hir heb adfywiad, yn myned yn gyffelyb i'r ddaear pan fyddo yn hir heb wlaw. Mae y ddaear pan wedi myned yn sech iawn yn gwrthod y gwlaw, saif y cymylau yn llwythog o ddyfroedd am ddyddiau uwch ei phen, heb dywallt eu cynnwysiad arni: Beth yw yr achos? Diffyg sygn-dyniad yn y ddaear. Y mae cymylau addewidion Duw yn llwythog o wlaw graslawn dylanwadau yr Ysbryd yn sefyll uwchben yr eglwys; Paham na cheid y tywalltiad mawr? Diffyg sygn-dyniad yn Sïon,—gweddi y ffydd, ac undeb teimlad a dymuniad am dano. Y mae bronau y nefoedd yn llawnion o laeth bob amser, ond rhaid i'r eglwys sugno cyn y caiff ef. Nid yw y plentyn wrth sugno bron y fam yn rhoddi dim ynddi, ond tynu o honi yr hyn oedd ynddi o'r blaen y mae.

Adda a'i blant.

GALL pob plentyn i Adda ddywedyd yn hawdd,—"Pe buaswn innau yn ei le, mae yn ddigon sicr mai yr un peth a wnaethwn i ag a wnaeth yntau." Dylai hyn dawelu pob ffrae rhyngom a'r hen dad.