Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tymmorau, &c., y byd ysbrydol.

HAF bythol heb auaf i ddyfod ar ei ol, ydyw tymmor y nefoedd; a gauaf bythol heb haf i'w ddysgwyl mwy, ydyw tymmor uffern.

Goleuni diddarfod heb dywyllwch i'w ddilyn, ydyw dydd y nefoedd; a thywyllwch diddiwedd heb obaith llewyrch o oleuni, ydyw nos uffern. Hanner dydd heb fyned byth bythoedd yn un o'r gloch brydnawn, ydyw awr y nefoedd; a hanner nos heb obaith yn dragywydd am un o'r gloch y boreu, ydyw awr uffern.

Y Ddimai beryglus.

PEIDIWCH byth, famau plant, a dechreu rhoddi dimai iddynt i brynu mint cake; y ddimai ddamnio ydyw hòno. Wrth roddi dimai i'r hogyn bach o ddydd i ddydd, yn mhen ychydig amser bydd wedi dysgu dau gast, sef porthi blys, a dibrisio arian; rhaid cael y pint cwrw yn lle y mint cake yn fuan, ac felly nid oes wybod yn y byd pa faint o drueni a genhedla y ddimai hòno.

Y galon gàreg.

CALON drom yw y galon gàreg, oblegid "trom yw y gàreg, a phwysfawr yw y tywod;" y mae yn pwyso ac yn tynu tua'r ddaear—un ddaearol ydyw. Y mae yr Ysbryd Glân yn gyntaf yn ei tharo â "gordd" y gair nes ei thòri a'i dryllio, yna y mae yn ei thynu yn raddol bob yn ddarn, a phan dyner ymaith y darn olaf o honi, y mae y dyn yn ddigon ysgafn i ehedeg i'r nefoedd.

Y tri chythraul.

Y MAE tri chythraul ag sydd yn gwneuthur mawr anrhaith a niwed yn ein cynnulleidfaoedd a'n heglwysi, sef cythraul cânu—cythraul gosod eisteddleoedd a chythraul dewis swyddogion; y maent o'r rhywogaeth waethaf o gythreuliaid, 66 ac nid â y rhywogaeth hon allan ond trwy weddi ac ympryd.""

Meddwl dyn.

Y MAE meddwl dyn yn gyffelyb i felin, yr hon a fâl pa beth bynag a rodder ynddi, pa un bynag ai eisin ai gwenith. Y mae y diafol yn awyddus iawn i gadw ei gylch yn y felin hon, ac i'w llanw yn barhaus ag eisin meddyliau ofer; ac am hyny, y mae gwyliadwriaeth wastadol yn anghenrheidiol i gadw gwenith y gair yu y myfyrdod. "Cadw dy galon yn dra diesgeulus."

Am ba beth yr ydym yn gyfrifol.

GALL llawer o bethau drwg ymgynnyg i'r meddwl na byddwn yn gyfrifol am danynt, os na roddwn lety a chroesaw iddynt. Nid oes genyf help os daw mintai o ladron at fy nrws, i geisio derbyniad a llety; ond os bydd i mi eu derbyn, yr wyf yn gyd-gyfrannog â hwy. Ac os bydd y