Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

unleisiol oddiwrth yr eglwys gynnulleidfaol yn Horeb, swydd Aberteifi, a phenderfynodd gydsynio â hi. Fel ag yr oedd un diwrnod ar ganol ysgrifenu ei atebiad cadarnhaol i'r alwad grybwylledig, daeth un o'i gyd-fyfyrwyr i'w ystafell gyda'r hysbysiad, bod eu hathraw yn myned i Lynlleifiad, i'r cyfarfod blynyddol, a bod caniatâd i'r sawl a ewyllysient o'r myfyrwyr i fyned yno, ond gofalu na byddai iddynt ragor na'r diwrnod hwnw a thrannoeth o amser. Taflodd ei bin a'i bapur o'i law yn y fan, ac ymaith ag ef, cyn gorphen ei lythyr, gyda'i athraw a nifer o'i gyd-fyfyrwyr, i Lynlleifiad. Cyn dyfod yn ol, perswadiwyd ef gan y gwr tra rhagorol hwnw mewn duwioldeb a haelioni, Mr. Jones, cutler, o Gaer, i aros a sefydlu yn Harwd a'r Wern, ac felly y bu. Mor ddirgel, gofalus, a manwl, ydyw ffyrdd Rhagluniaeth Ddwyfol yn trefnu ac yn gwylio camrau a symudiadau gweision Duw! Yr oedd maes llafur gweinidogaethol y gwas ffyddlawn hwn wedi ei rag-bennodi yn meddwl a bwriad ei Feistr mawr cyn erioed iddo ef ymddangos mewn bodoliaeth; a phan, yn ol ei feddwl a'i fwriad personol ei hun, yr oedd wedi penderfynu gadael gogleddbarth y dywysogaeth, i sefydlu yn y deheubarth, gwelwn fel y trefnodd Rhagluniaeth ddygwyddiad prydlawn i droi ffrwd ei fywyd a'i weinidogaeth, i redeg yn y ffrydle a ddarparasai iddi. Dangoswyd fel hyn mai "anrheg y nef i Wynedd," oedd WILLIAMS, fel y dywedai y Parch. D. Rowlands, o Langeitho, am y diweddar Barch. T. Charles, o'r Bala; a diau bod mwy o angen am wr o'i alluoedd a'i ddoniau ar yr achos bychan a gwan, y pryd hyny, yn y Gogledd, nag oedd am ei fath yn y Deheudir, lle yr oedd yr achos gyda'r Annibynwyr yn gryf a blodeuog mewn cymhariaeth. Dysgodd yr Arglwydd ei was ieuanc i gerdded "llwybrau nad adnabu ef o'r blaen."