Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD II.

Ei sefydliad yn y Wern—Ei ordeiniad—Dechreuad yr achos yn Rhos-Llanerchrugog—Mr. WILLIAMS yn cymmeryd gofal yr eglwys yno —Cynnydd a llwyddiant yr achos yno—Adeiladu y capel cyntaf yn Rhos—Yr un presennol—Adeiladu capel Llangollen—Priodas Mr. WILLIAMS—Nodwedd Mrs. Williams—Eu symudiad i fyw i Langollen—Taith Mr. WILLIAMS i'r Deheudir—Ei symuniad i fyw i'r Talwrn, gerllaw y Rhos—Ei lafur cyhoeddus, hyd ei symudiad i Lynlleifiad.

GADAWODD Mr. WILLIAMS yr Athrofa yn y flwyddyn 1807, wedi pedair blynedd o arosiad ynddi, a daeth i'r Wern a Harwd ar brawf. Yr oedd yr eglwysi a'r ardaloedd hyn wedi cael digon o brawf o'i ddoniau a'i weinidogaeth tra yn yr Athrofa, oblegid mai y myfyrwyr o Wrexham a gynnaliasent bregethu ynddynt, gan mwyaf, o'r dechreuad. Derbyniodd a chydsyniodd â galwad a chais yr eglwysi, i gymmeryd ei ordeinio yn fugail arnynt, yr hyn a gymmerodd le ar yr 28ain o Hydref, 1808. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. Hughes, Dinas; traddodwyd y ddarlith ar Natur Eglwys Efengylaidd gan Dr. Lewis, y pryd hyny Mr. Lewis, o Lanuwchllyn; anerchwyd y gweinidog ieuanc gan ei gyn-athraw, y Parch. Jenkin Lewis, o Wrexham; a'r eglwys, gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair. Buasai y gweinidogion uchod y diwrnod o'r blaen yn Dinbych, yn ordeinio y Parch. T. Powell, un o gyd-fyfyrwyr Mr. WILLIAMS, yn fugail ar yr eglwys gynnulleidfaol yn y dref hono.

Nid oedd yr eglwysi yn Harwd a'r Wern ond ieuainc a gweiniaid, pan y daeth Mr. WILLIAMS i ymsefydlu yn eu plith. Pump oedd y nifer yn y cymundeb cyntaf a weinyddwyd yn y Wern.

Ymroddodd Mr. WILLIAMS yn egniol at waith y weinidogaeth, ar ol ymaflyd ynddo. Dangosodd yn amlwg na chymmerasai y swydd gyda golwg ar esmwythdra a bwyta bara seguryd, ond yr ymaflai ynddi er mwyn ei gwaith. Treuliai ac ymdreuliai ynddo, gan "fod yn daer mewn amser, ac allan o amser." Yr oedd y pryd hyn yn mlodau ei ddyddiau a blaenffrwyth ei oes, yn meddu ar gyfansoddiad