Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grymus, corff pybyr, tymher fywiog a hoenus, meddwl cyflym a gwrol, a thalentau ysblenydd; ac ymroddodd i'w dwyn oll allan i'r farchnadfa, a'u cyssegru at alwedigaethau y swydd bwysig yr ymaflasai ynddi.

Heblaw llenwi ei gylch gweinidogaethol yn y Wern a Harwd, cydymdrechai â'r myfyrwyr o Wrexham i gynnal pregethu a phlanu eglwysi yn Rhos-Llanerchrugog, Llangollen, a Ruabon, a phregethai yn fynych iawn ar nosweithiau yr wythnos mewn tai annedd, pa le bynag y byddai galwad am dano, neu ddrws agored iddo.

Sefydlwyd eglwys Annibynol Rhos-Llanerchrugog yn Chwefror, 1810, ychydig gyda dwy flynedd wedi ordeiniad Mr. WILLIAMS yn y Wern. Ymgynnullent y pryd hyny mewn tŷ annedd a elwid y Pant, yn gyfagos i'r pentref; symudasant yn Awst canlynol i'r Rhos, i ystafell ardrethol a gymmerasent i'r perwyl. Nifer yr eglwys pan ei sefydlwyd ydoedd saith. Wedi symud i'r ystafell grybwylledig, cytunasant â'u gilydd i ymgynnyg am weinidogaeth sefydlog, oblegid hyd hyny nid oeddynt dan ofal neillduol un gweinidog mwy nâ'i gilydd. Pregethid iddynt yn Sabbothol gan y myfyrwyr o Wrexham, a Mr. WILLIAMS ar gylch. Yn yr amgylchiad hwn rhoddasant eu hachos dan sylw y Parch. J. Lewis, athraw yr Athrofa, ac yntau a'u cynghorodd hwynt i gyflwyno eu hunain i ofal Mr. WILLIAMS, mewn cyssylltiad â'r Wern a Harwd, yr hyn a wnaethant; ac yntau, wedi ymgynghori â'i gyn-athraw hybarchus, a gydsyniodd â'u cais.

Dechreuodd yr achos yma flaguro a llwyddo yn fuan dan ei weinidogaeth, fel ag yr aeth yr ystafell yn rhy fechan o lawer i gynnwys y gwrandawyr, ac yr aethant i ddywedyd, "Rhy gyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi fel y preswyliwyf!" Wedi bod yn yr ystafell hono yspaid dwy flynedd, ymofynwyd am, a chafwyd lle i adeiladu capel, yr hyn a gyf lawnwyd yn y flwyddyn 1812; ei faint ydoedd 13 llath. wrth 10. Bu Mr. WILLIAMS yn llafurus a llwyddiannus i gasglu at leihau dyled yr addoldy hwn, a chafodd yr hyfrydwch o'i weled yn cael ei lenwi â gwrandawyr, a'r eglwys yn myned ar gynnydd dymunol mewn rhifedi; a chyn diwedd ei oes, cafodd weled hwn drachefn wedi myned yn gymmaint yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, ag y gwelsai y Pant a'r ystafell gynt; a gwelodd hefyd yr addoldy hardd ac eang presennol wedi ei orphen a'i agoryd, a'i lenwi â gwrandawyr; a'r eglwys hono, nad oedd ond saith mewn rhifedi pan gymmer-