Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

asai ei gofal gyntaf, wedi lliosogi yn amryw gannoedd mewn nifer. Da y gallasai ddywedyd, megys y Salmydd gynt, "Ac â'th fwynder y'm lliosogaist.'

Yr oedd o ran ei farn a'i athrawiaeth yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth, dyna oedd tôn y weinidogaeth yn fwyaf cyffredinol yn mhlith yr Annibynwyr yn y dyddiau hyny. Buasai dyfodiad y Wesleyaid i Gymru ychydig flynyddau cyn hyn, yn achlysur yn ddiau i'r Trefnyddion Calfinaidd, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, i sefyll yn dynach dros yr athrawiaeth Galfinaidd nag y gwnaethent cyn hyny; neu yn hytrach, i beri iddynt gilio oddiwrth Galfiniaeth gymhedrol i dir uchel Galfiniaeth, er mwyn ymgadw ac ymddangos yn ddigon pell, fel y tybient, oddiwrth yr heresi Arminaidd, fel yr edrychent arni, pan mewn gwirionedd yr oeddynt yn myned yn llawer nes ati o ran egwyddorion, tra yn cilio yn mhellach oddiwrthi mewn ymddangosiad arwynebol a swn geiriau yn unig. Cyn y dyddiau hyny yr oedd y corff Trefnyddol mor wresogfrydig dros yr athrawiaeth o gyffredinolrwydd yr Iawn, a galwedigaeth yr efengyl, ag y daethant wedi hyny yn erbyn y golygiadau hyny. Y Parch. J. Roberts o Lanbrynmair oedd un o'r rhai cyntaf yn Ngogledd Cymru a gyfododd i fynu dros yr hen athrawiaethau a fuasent yn foddion i ddeffroi, a chynnyrchu y diwygiadau nerthol yn nyddiau Lewis Rees, Howell Harris, Daniel Rowlands, William Williams, Pantycelyn, ac ereill, a gwrthddrych y cofiant hwn, oedd un o'r rhai cyntaf a ddaeth allan i'w gynnorthwyo. Y mae yn debygol fod hyn o wahaniaeth rhwng y ddau dô yma o weinidogion a'u gilydd; nid oedd gan hen dadau y tô blaenaf, unrhyw system bennodol o athrawiaeth, wedi ei chasglu a'i chrynhoi, a'i gosod yn drefnus wrth ei gilydd, ond ymollyngent yn ffrwd ymadroddion y Bibl, heb ofalu cymmaint am fanwl ddangos cyssondeb y naill gangen o athrawiaeth a'r llall, ac yn wir, fe ymddengys eu bod yn hollol yn eu lle, nid oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser yn galw am nemawr o hyny; yr oeddynt yn gwynebu ar y wlad pan oedd yn gorwedd mewn tywyllwch, anwybodaeth, a difrawder, a gwaith eu tymmor hwy, oedd seinio yr alarwm uwch ei phen, er ei deffroi o'i marwol gwsg trwm; ac at y gwaith hwn yr oedd eu Meistr mawr wedi eu haddurno â galluoedd corfforol a meddyliol i raddau helaeth iawn. Yr ail dô, yr ochr arall, a ddechreuasant osod trefniad o'r golygiadau wrth eu gilydd,