Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan ymdrechu dangos cyd-ffurfiant a chyssondeb y naill athrawiaeth â'r llall, ac yr oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser hwythau a mwy o alw am hyn, nag oedd o'r blaen; yr oedd y wlad erbyn hyn wedi ei goleuo i raddau, ac egwyddorion yr efengyl yn cael eu gosod gerbron mewn dullweddau gwahanol, nes oedd mwy o ysbryd ymofyniad wedi ei gyffroi ynddi, ac ymholi pa fodd y cyssonid y peth hwn a'r peth arall â'u gilydd. Gwnaeth Roberts, gyda'i ysgrifell yn benaf, a WILLIAMS, yn yr areithfa, lawer iawn o wasanaeth yn y ffordd hon.

Gyda golwg ar y cyfnewidiad dan sylw yn ei olygiadau ar rai athrawiaethau, ysgrifenai y Parch. T. Jones, gynt o Langollen, fel y canlyn: "Yn nechreuad ei weinidogaeth yr oedd Mr. WILLIAMS, o ran ei olygiadau duwinyddol, yn uchel Galfiniad, yr hyn oedd cred gyffredinol yr eglwysi y pryd hwnw. Cymmerai Mr. WILLIAMS, fel ereill, yn ganiataol mai hon oedd y wir athrawiaeth, hyd oni ddaeth i feddwl a chwilio yn fanylach drosto ei hun. Yr hyn a'i harweiniodd yn gyntaf i ddrwg-dybio cyfundraeth ei ieuenctyd, oedd anhawsdra a deimlai i'w chyssoni ag amrywyriol ranau o'r datguddiad Dwyfol. Yr hyn a fu y moddion cyntaf oll i'w ddwyn i dir goleuach a gwell mewn duwinyddiaeth, ydoedd darllen traethawd o waith Dr. Bellamy, a elwir "True Religion delineated." Cynnorthwyodd hwn ef i ddryllio yr hen lyffetheiriau a ddaliasent, hyd yn hyn, ei feddwl mawreddog mewn caethiwed. Bu cyfnewidiad ei farn. yn achos o gryn helbul iddo. Cafodd gryn wrthwynebiad oddiwrth ei frodyr ei hun, a'i gyhoeddi a'i ddynodi fel cyfeiliornwr a heretic gan enwadau ereill, yr hyn, yn ddiau, a darddai, yn benaf, oddiar eiddigedd at ei boblogrwydd a sel sectaidd, yn fwy nag oddiar gariad at yr hyn a farnent hwy yn wirionedd. Fel hyn y bu yn offeryn yn llaw Rhagluniaeth i ddwyn egwyddorion i'r golwg, a ystyrir yn Nghymru heddyw gan laweroedd, yn ddiau, yn werth dyoddef a marw drostynt, pe byddai galw am hyny; a chafodd yr hyfrydwch, cyn diwedd ei oes, o weled llawer o'i wrthwynebwyr a'i erlidwyr gynt, yn eu gwerthfawrogi a'u cofleidio.'

Mewn cyfeiriad at yr un amgylchiad, sylwai diaconiaid yr eglwys gynnulleidfaol yn Rhos-Llanerchrugog fel y canlyn: "Yr athrawiaeth a bregethai Mr. WILLIAMS oedd, i raddau, yn wahanol i'r hyn oedd wedi cael ei phregethu yn yr ardaloedd hyn o'r blaen, ac nid ychydig fu y gwrthwynebiadau a