Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gafodd, a'r llafur a gymmerodd i argraffu ar feddyliau y bobl yr egwyddorion syml, ymarferol, ac ysgrythyrol, a draddodai iddynt. Byddai ei ddull yn wastad yn esmwyth a didramgwydd; ni fyddai byth yn ergydio at bersonau nac enwadau ereill, nac yn condemnio y rhai oeddynt yn barnú yn wahanol iddo ef. Gosodai ei egwyddorion yn oleu, syml, a theg, ger bron ei wrandawyr, heb gymmeryd arno ei fod yn gwybod fod neb yn y byd yn barnu yn wahanol, na bod neb yn ei osod allan fel cyfeiliornwr a heretic. Gadawai iddynt weithio eu ffordd yn eu nherth a'u goleuni eu hunain; a gweithio eu ffordd a wnaethant drwy lifeiriant o wrthwynebiadau, ac y maent yn awr yn sefydlog a chadarn yn meddyliau a chalonau cannoedd o drigolion yr ardal."

Mynych gydnabyddai ei fraint yn yr amser hwn o fod wedi bwrw ei goelbren yn mhlith yr Annibynwyr, lle nad oedd nac esgob, na llys, na chyfarfod, na chymmanfa, i hòni awdurdod i'w alw i gyfrif am ei gred a'i athrawiaeth, y teimlai ei hunan yn rhydd, wrth esgyn i'r areithfa, i draethu gwir olygiadau ei galon ar athrawiaethau yr efengyl, heb lyffetheiriau o erthyglau a chyffesion i gadwyno ei draed, na bod gofal arno rhag syrthio ar draws dim o'r fath bethau. Wrth bregethu teimlai nad oedd yn gyfrifol i un orsedd nac awdurdod ond gorsedd ac awdurdod Crist—mai ei was ef ydoedd, ac mai iddo ef yn unig yr oedd yn gyfrifol.

Ond er ei fod felly yn rhydd oddiwrth awdurdodau cymanfaol, cafodd gryn lawer o flinder, fel y rhag-grybwyllwyd, oddiwrth rai brodyr yn y weinidogaeth, ac ereill, ag oeddynt yn selog dros burdeb yr athrawiaeth, fel y meddylient hwy. Ystyrid ef ganddynt fel un wedi gŵyro oddiwrth y gwirionedd a'r athrawiaeth iachus, a diau, pe buasai awdurdod cymmanfaol i'w gael yn y cyfundeb, y buasai y gwŷr hyny yn, ei ddefnyddio yn ewyllysgar, os medrasent ei gael i'w dwylaw, er rhoddi gorfod arno ef, a phob un o'r un golygiadau ag ef, naill ai seinio eu Shibboleth hwy, neu, ynte, ymadael â'r corff. Buasai yn dda gan ambell un allu cau drws yr areithfa, pan ddygwyddai ddyfod heibio iddynt yn yr amserau hyny; ond yr oedd poblogrwydd a chymmeradwyaeth Mr. WILLIAMS yn y wlad yn gyfryw ag na feiddient wneuthur hyny. Gwahoddent ef i'w cyfarfodydd a'u cymmanfa oedd rhag ofn y bobl." Yr oedd y public opinion yn darian iddo rhag saethau o'r fath yma, yn gystal ag yr oedd y drefn gynnulleidfaol yn dwr amddiffyn i'w wared rhag y rhuthrgyrch arall a ddynodwyd.