egwyddorion a gofleidio y farn yn dwyn dylanwad ar y galon, nes ei nhewid i'r unrhyw ddelw â hwy eu hunain; a pha rai yw y golygiadau cywiraf ar athrawiaethau gras, barned y darllenydd drosto ei hun, gan ystyried yr ysbryd a'r ffrwythau a gynnyrcha y ddau ddosbarth y bwriwyd golwg arnynt. Daw ansawdd a thymher ysbryd gwrthddrych ein Cofiant, un o'r rhai cyntaf a phenaf yn mhlith y tô diweddaf o dduwinyddion rhyddfrydig Cymru, dan sylw etto, pan ddelom yn mlaen i geisio rhoddi desgrifiad pennodol o'i nodwedd a'i deithi.
Yn fuan wedi cymmeryd o hono ofal bugeiliol yr eglwys fechan yn Rhos-Llannerchrugog, taer wahoddwyd ef i Langollen i bregethu. Nid oedd pregethu wedi bod gan yr Annibynwyr yn y dref hòno o'r blaen. Yr oedd Mr. E. Edwards, Trefor, wedi bod yn taer gymhell Mr. WILLIAMS amrywiol weithiau i fyned yno, ac yr oedd gwr parchus arall o'r dref hono, ag oedd yn aelod gyda y Trefnyddion Calfinaidd, yn awyddus iawn am ei gael yno. Fel ag yr oedd Mr. Edwards yn parhau i'w gymhell, ac wedi dyfod i'r Rhos, a gwr arall gydag ef, un Sabboth ar y neges hon, dywedodd Mr. WILLIAMS, "Pe gwyddwn mai ysbryd plaid sydd yn eich cynhyrfu, ni ddeuwn i Langollen byth," neu eiriau o'r cyffelyb. "Yr wyf yn sicrhau i chwi," ebe Mr. Edwards, "na buasai yn werth genyf symud cam oddicartref heddyw yn yr achos hwn, oni bai fod genyf rywbeth uwchlaw plaid mewn golwg." Ar hyn cytunodd Mr. WILLIAMS i fyned yno y Sabboth canlynol. Addawai y gwr y crybwyllwyd am dano o'r blaen, y cawsid benthyg capel y Trefnyddion iddo i bregethu; ond erbyn ymofyn yn fanylach, nid oedd i'w gael, ond cafwyd benthyg llofft helaeth y Royal Oak, ac yno y pregethodd ei bregeth gyntaf yn Llangollen, oddiar Sal. 119, 113, " Meddyliau ofer a gaseais." Cynnaliwyd pregethau rheolaidd yn Llangollen o'r dydd hwnw allan. Buwyd yn ymgynnull am gryn dymhor yn ngoruwch-ystafell y Royal Oak. Symudwyd wedi hyny i dŷ Mr. Thomas Simon. Casglwyd ychydig enwau yn nghyd yno, a sefydlwyd hon etto yn ganghen eglwys gyssylltiedig â'r lleill ag oeddynt dan ofal bugeiliol Mr. WILLIAMS. Wedi bod yno yn llafurio dan lawer o anfanteision am rai blynyddau, o eisieu lle mwy cyfleus i ymgynnull, penderfynwyd ar adeiladu capel yma drachefn. Hwn a adeiladwyd yn y fl. 1817. Priododd Mr. WILLIAMS yn y flwyddyn hon â Miss Rebecca Griffiths, o Gaer, yr hon oedd foneddiges ieuanc o gryn gyfoeth, a thra