Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chyflawn o wybodaeth, doethineb, a synwyr, rhagorol mewn duwioldeb, a dysglaer yn mhob dawn rinweddol, ac felly yn mhob ystyr yn deilwng o'r ragorfraint o fod yn gydmar bywyd i wr o dymher serchus, calon haelionus, a doniau ysblenydd Mr. WILLIAMS; a dedwydd iawn a fuont yn eu gilydd, hyd nes eu gwahanwyd gan angeu. Bu, a dichon fod, ac y bydd etto, llawer o wragedd gweinidogion yn rwystrau ac yn faglau, yn ddarostyngiad a gwanychdod iddynt yn mhob ystyr; ond yr oedd y wraig ddoeth hon yn goron i'w gwr, "yn gymhorth iddo yn mhob golygiad; a diau ddarfod iddo ddysgu llawer mwy ar yr iaith Saesonaeg, a boneddigeiddrwydd moesau, oddiwrthi hi, nag a ddysgasai yn yr Athrofa. Bu iddynt bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, tri o'r rhai sydd yn awr yn fyw; bu y ferch hynaf farw ychydig wythnosau o flaen ei thad, fel y ceir achlysur i grybwyll.

Lletyasai Mr. WILLIAMS dros y naw mlynedd blaenorol, sef o'r amser y daethai i'r Wern, hyd ei briodas â Mrs. Williams, yn nhŷ Mr. Joseph Challenor, gerllaw Adwy'rclawdd, yr hwn sydd etto yn fyw, ac wedi ennill iddo ei hunan radd dda, drwy wasanaethu swydd diacon yn ffyddlon a chymmeradwy yn eglwys y Wern dros lawer o flynyddoedd.

Yn fuan wedi ei briodi, symudodd i fyw i Langollen; cymmerodd daith drwy ranau o'r Deheudir y flwyddyn ganlynol, i gasglu at gapel newydd Llangollen. Pan ar y daith hon cafodd gymhelliad taer iawn gan eglwys luosog Abertawy, i ddyfod yno, a chymmeryd ei gofal gweinidogaethol; ond ni allai feddwl am adael yr ychydig braidd yn y Wern, a'r manau ereill, i ymdaraw drostynt eu hunain dan feichiau o ddyledion ag oeddynt yn aros ar eu haddoldai. Dewisodd yn hytrach ymwadu â'i esmwythder personol ac aros gyda hwy yn eu profedigaethau, i'w cynnorthwyo i ddwyn, ac ysgafnhâu eu gofalon.

Nid cymmaint fu llwyddiant ei weinidogaeth yn Llangollen; isel iawn oedd crefydd yn y dref hon yn mhlith pob enwad yr amser hwnw; ac nid ymddengys ei fod yn teimlo yn gysurus iawn tra y bu yno. Teimlai yr eglwys yn Rhosllanerchrugog, a theimlai yntau, ei bod o dan fawr anfantais o eisieu gweinidogaeth fwy rheolaidd; nid oedd erbyn hyn yn gallu myned yno yn amlach nag unwaith yn y pythefnos. Yn yr amgylchiad hwn, ymgynghorasant â'u gilydd yn nghylch ymofyn am weinidog iddynt eu hunain; gosodasant