wch, ffyddlondeb a doniau poblogaidd Mr WILLIAMS, yr oedd yr achos yn gwywo, ac yn marw dan ei ddwylaw; ychydig iawn a ddeuent i'w wrando yno. Dywedai fod Harwd wedi bod o fwy o les iddo ef, nag a fuasai efe i Harwd, ei bod yn swmbwl yn ei gnawd fel na'i tra dyrchefid, gan fawredd ei boblogrwydd cyffredinol mewn manau ereill; os byddai yn teimlo tuedd i ymchwyddo wrth weled tyrfaoedd mawrion yn ymgasglu i'w wrando, byddai cofio am Harwd, yn foddion i roddi attalfa arni. Rhoddodd ofal Harwd i fynu yn y flwyddyn 1828, a chymmerodd y Parch. Jonathan Davies, fugeiliaeth y lle mewn cyssylltiad â Phenuel, yn ardal Hope.
Gan nad oedd Mr. WILLIAMS, fel y sylwyd, wedi ysgrifenu dydd-lyfr, nid oes genym unrhyw ddygwyddiadau neillduol i'w cofnodi yn hanesyddiaeth ei fywyd, hyd nes y delom at y blynyddoedd diweddaf o hono. Ymdrechir gwneuthur y diffyg hwn i fynu goreu y gellir pan y delom i geisio rhoddi desgrifiad mwy neillduol a manylaidd o'i nodwedd gweinidogaethol. Gallem ychwanegu yn unig yn y lle hwn, iddo dreulio y blynyddoedd hyn o'i oes mewn llafur mawr, diwyd, a diflino, a mwynhau ar y cyfan, radd dda iawn o iechyd, a chysuron teuluaidd ac eglwysig. Teithiai lawer oddicartref i gyfarfodydd, yn mhell ac yn agos. Yr oedd yr eglwysi a'r gwrandawyr yn mhob man yn "dysgwyl am dano fel am y gwlaw," yn lledu eu genau am ei weinidogaeth, "fel am y diweddar-wlaw," a phan glywai clust ef, hi a'i bendithiai; "Canys ei athrawiaeth a ddyferai fel gwlith, a'i ymadrodd a ddefnynai fel gwlaw, fel gwlith-wlaw ar îrwellt, ac fel cawodydd ar laswellt." Ystyriai yr holl eglwysi WILLIAMS fel meddiant cyffredin, (public property,) ac yr oeddynt megys yn tybied bod ganddynt hawl gyfiawn i alw am ei wasanaeth pa bryd bynag y meddylient ei fod yn anghenrheidiol; ac mewn gwirionedd yr oedd llawer o reswm a phriodoldeb yn y dybiaeth hon; buasai yn drueni, ac yn golled gyffredinol i'w ddoniau a'i dalentau, gael eu cyfyngu o fewn cylch cynnulleidfa neu ddwy; ond teilwng iawn fuasai i'r fath wasanaeth gwerthfawr gael ei gydnabod yn well nag y cafodd; nid oes ynof yr amheuaeth leiaf, na threuliodd fwy o'i arian ar ei deithiau wrth wasanaethu yr eglwysi, nag a dderbyniodd am ei lafur. Yr oedd hyny yn eithaf annheilwng, ac anghyfiawn. Yr unig gwyn a ddygai'r eglwysi dan ei ofal yn ei erbyn, oedd, ei fod yn myned yn rhy fynych oddicartref. "Yr wyf yn deail, (meddai unwaith wrth frawd yn y weinidogaeth,) bod