Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eich pobl chwithau yn cwyno llawer o herwydd eich bod yn myned gymmaint oddiwrthynt, peidiwn a chwyno bod yr eglwysi ereill yn galw am danom, a'r eglwysi gartref yn cwyno ar ein hol, ond diolchwn lawer am nad yw fel arall; yr eglwysi gartref yn cwyno ein bod yn aros gormod gyda hwynt, eisieu newid mwy â gweinidogion ereill; ac eglwysi ereill, yn well ganddynt beidio a'n gweled yn dyfod atynt ar y Sabboth na chyfarfod, a ninnau felly fel llestr heb hoffder ynddo;' y mae ryw faint yn boenus fel hyn, ond buasai yn dlawd iawn fel arall; cysur mawr ydyw i ni gael lle i feddwl fod ein gweinidogaeth yn gymmeradwy gan y saint.' Byddai yn llawer llai o draul a llafur i ni aros gartref, ond y mae amgylchiadau yr achos yn ein plith yn bresennol, yn gofyn am i ni aberthu rhyw faint yn y peth hwn." Buasai yn dda genym allu rhoddi cofrestr o'i deithiau, a'i lafur, yn y blynyddoedd hyn; hauodd lawer iawn o'r "hâd da" yn maes y Dywysogaeth, a chyrion Lloegr hefyd, o'r areithfaoedd, ac mewn cyfeillachau a theuluoedd; yr oedd yn dyfal ddilyn cyfarwyddyd y pregethwr, "Y boreu haua dy hâd, a'r prydnawn nac attal dy law, canys ni wyddost pa un a ffyna ai hyn yma, ai hyn acw, ai ynte da a fyddant ill dau yn yr un ffynud." Cynhauafwyd llawer t'wysen aeddfed i ogoniant a gododd i fynu o'r hâd a wasgarodd, a diau y cesglir llawer etto.

Oes y drafferth fawr gydag adeiladu addoldai newyddion oedd oes weinidogaethol Mr.WILLIAMs, yn enwedig y blynyddoedd y cyfeirir atynt yn bresennol; a chafodd ef ei gyfran helaeth o'r drafferth a'r gofal yma. Byddai ef a'i auwyl frodyr Jones o Dreffynnon, a Roberts o Ddinbych, yn fwyaf neillduol, yn wrthddrychau i apeliadau a chwynion o bob man yn mron, yn swyddi Dinbych a Fflint, ag y byddai angen am le newydd i addoli ynddynt; a byddai eu hysgwyddau yn fynych dan bynau trymion o'r gofal. Yr oedd gan Mr. WILLIAMS gariad neillduol at, a phryder mawr am yr achos, yn y manau hyny ag y cawsai lawer o draul a llafur gyda hwynt. Wrth adrodd ei deimlad hwn unwaith, sylwai, "Y mae hon yn reddfol yn ein natur, bod i ni deimlo cariad a gofal at ac am beth a fyddo wedi costio yn lled ddrud i ni; yr oedd mam Jabes yn anwylach o hono nag un arall o'i phlant, oblegid iddi ei ddwyn ef drwy ofid.' Y mae genyf finnau ryw serch mwy neillduol at ryw fanau nâ'u gilydd, oblegid i mi gael mwy o ofal a gofid o'u hachos." Gwnai yr un sylw yn mhen