amryw o flynyddau drachefn, ac yn agos i ddiwedd ei oes, a chan gyfeirio at Ruthun yn neillduol, dywedai, "Y mae genyf ofal mawr er ys blynyddau am yr achos gwan yn thun, cefais lawer o drafferth a gofid gyda'r capel yno, a gweddiais lawer hefyd dros yr achos yno; y mae yn llawenydd mawr i mi weled yno weinidog o'r diwedd ag sydd yn debyg o fod yn un gweithgar a defnyddiol—yr wyf yn dra hyderus, y cyfyd crefydd ei phen odditan y dwfr yn raddol yno."
Diau y dylai, a diau fod coffadwriaeth y cyfiawn hwn yn fendigedig ac anwyl gan holl eglwysi Annibynol y Dywysogaeth; y rhai oll i raddau mwy neu lai a ddyfrhawyd â'i weinidogaeth; ond yn nesaf at eglwysi Harwd, y Wern, Llangollen, Rhuabon, Rhosllanerchrugog, a Llynlleifiad, y rhai a fuant yn wrthddrychau ei ofal bugeiliol; dylai eglwys Ruthun ac eglwys Gymreig Manchester, yn neillduol, fendithio ei lwch, a theimlo bythol anwyldeb tuag at ei enw a'i goffadwriaeth.
Ymwelodd Mr. WILLIAMS â'r brif-ddinas amrywiol weithiau, ac yr oedd ei barch, ei dderbyniad, a'i boblogrwydd yno, yn mhlith ein cyd-genedl, a'r Saeson hefyd yn fawr iawn. Yr oedd Duw yn arogli arogledd ei wybodaeth drwyddo yn mhob man." Y mae ei enw yn gariadus ac anwyl yno, fel yn mhob lle arall. Rhoddodd genedigaeth Iachawdwr y byd gyhoeddusrwydd ac enwogrwydd i Bethlehem fechan, na chawsai byth m'o hono, oni buasai yr amgylchiad hwnw; ac yn gyffelyb yn ei gyssylltiad ag enw ei ffyddlon was, WILLIAMS, rhoddwyd cyhoeddusrwydd ac enwogrwydd i enw y Wern, fel y daeth ei sain yn adnabyddus i glustiau miloedd yn Nghymru, Lloegr, ac America, na chlywsent byth am dani oni bai hyny.
Rhoddwn yn y fan hon bigion o lythyr y Parch. Calvin Colton, gweinidog enwog o America, a ysgrifenwyd ganddo yn Llundain, pan ar ymweliad yno; ac a ymddangosodd yn y "New York Observer," am Mawrth 7, 1835. Barnasom y rhoddai rhanau o'r llythyr hwn gryn ddifyrwch i'n darllenwyr yn gyffredin, fel ag y mae yn cynnwys sylwadau gŵr enwog o estron ar deithi a nodwedd ein cenedl, ac o herwydd hyny, rhoddir rhai darnau o hono yma, ag nad ydynt yn dal perthynas uniongyrchol â gwrthddrych ein cofiant.