"Llundain, Ion. 19, 1835. "CYMMERWCH ddysglaid o dê gyda ni y prydnawn heddyw am bump,' ebai gwraig anrhydeddus a chrefyddol o Gymraes wrthyf ddoe, ar ddiwedd addoliad boreuol yn un o addoldai Llundain, 'a daw fy ngwr gyda chwi i'r Borough, y capel Cymreig, lle yr ydych yn bwriadu myned. Chwi a gewch gyfeillach Mr. WILLIAMS, y gwr sydd i bregethu, a Mr. Roberts hefyd, yr hwn sydd i gymmeryd rhan yn y gwasanaeth, a dau neu dri ereill o weinidogion Cymreig, ag ydym yn ddysgwyl,'
"Fel yr oeddym yn croesi pont Southwark, wrth fyned tua'r Capel, ar ol tê, dywedai y gwr y buasem yn ei dŷ wrth Mr. Roberts, un o'r pregethwyr, 'Rhaid i chwi roddi i ni sylwedd eich pregeth yn Saesonaeg, gan nad yw ein cyfaill hwn (gan gyfeirio ataf fi) yn deall Cymraeg, Yr wyf wedi crybwyll wrth Mr. WILLIAMS, ac y mae yntau wedi addaw yr un peth.' 'Pa beth,' meddwn i, ‘a ydych yn ddifrifol?' 'Bid sicr,' eb efe. Y mae hyny yn anrhydedd na ddysgwyliais erioed am dani; ac heblaw hyny, yr wyf yn myned i'r capel heno i wrando Cymraeg, ac nid Saesonaeg.' Y mae y Cymry yn bobl dra chrefyddol—yn fwy felly nâ'r Yscotiaid na'r Americaniaid—hwyrach nad oes cenedl Gristionogol arall yn y byd a ddengys gymmaint o deimlad crefyddol, neu y gellir ei dwyn fel corff i'r fath raddau dan awdurdod a dylanwad crefydd. Y maent tua miliwn o rifedi, yn wasgaredig dros wyneb 150 o filldiroedd wrth 80, neu bum miliwn a dau cant o filoedd (5,200,000) o erwau o dir, rhanau o'r hwn a gynnwysant y golygfeydd prydferthaf yn Mhrydain Fawr.
* * * * Y mae y Cymry, gan mwyaf, yn siarad eu hiaith eu hunain, ac yn diwyllio dysgeidiaeth Gymreig. Y maent yn falch o'u henafiaeth, ac yn meddwl, gyda golwg ar hyn, eu bod yn un o'r cenedloedd anrhydeddusaf ar y ddaear. Y mae eu serch at eu hiaith yn nodedig, ac yr wyf yn cael fy nhueddu i'r un farn â hwy, y gellir ei defnyddio gyda nerth a dylanwad ar deimladau a nwydau y natur ddynol, yr hwn na all yr iaith Saesonaeg ddwyn un cydmariaeth iddo. Ymddengys bod yr effeithiau a gynnyrcha eu barddoniaeth a'u pregethau yn profi hyn. Y mae eu dynion mwyaf coethedig yn ddirmygus o'r iaith Saesonaeg mewn cymhariaeth i'w tafodiaith gynhenid, er y byddant mor hyddysg yn y naill ag yn y llall, yn neillduol os byddant o dymher awengar.
"Gellir dywedyd bod gan awenyddiaeth a chrefydd gartref yn serchiadau y Cymry mwy nag yn yr eiddo unrhyw genedl arall.
* * * *Dyna yw fy marn bersonol fy hun. Yr wyf yn cyffesu fy mod yn llwyr grediniol o wirionedd adfywiadau crefyddol America, er bod yno lawer o bethau ag hwnw ag sydd yn ddianrhydedd iddynt. Yr wyf yn credu hefyd bod yr ydynt yn myned dan yr enw adfywiadau hyn, sef y rhai gwirioneddol, yn waith Ysbryd Duw, ond