Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rwydd a'i manylrwydd, gynnyrchu effeithiau a barent argraff ddwys iawn ar fy meddwl; etto, fel y'm hysbyswyd heddyw gan weinidog Cymreig arall, nid oedd mewn cymhariaeth ond methiant, oblegid iddo roddi y sylwedd o honi yn gyntaf yn Saesoneg, yr hon a ddeallai y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa, yr hyn a leihâi yr astudrwydd yn ail-adroddiad y sylwadau. Gofidiai y brawd hwn yn fawr ddarfod i'r pregethwyr aberthu yr effeithiau a allasent gynnyrchu, drwy dalu gormod o sylw i mi. 'Nid i wrando pregeth Saesonaeg, ond Cymraeg, yr aethai Mr.—— yno,' eb efe wrth frawd arall, a thrueni ddarfod i neb geisio ganddynt wneyd." Yr oedd yn hollol yn ei le, ac ni allasai neb fod yn fwy blin arno o'r plegid nâ myfi, er i'r peth gael ei wneuthur er fy mwyn i yn bennodol.

"Ond etto, yr oedd yn bregeth dra bywiog a nerthol. Tra y traddodai yn Saesonaeg, yr oedd yn ddigon amlwg nad oedd gartref, nac yn ei elfen briodol; ac fel y dywedai wrthyf wedi hyny:—' Pan fyddwyf yn troseddu rheolau y Saesonaeg, byddaf yn gyffelyb i blentyn diriad ar ol tòri chwarel o wydr ffenestr—ni byddaf byth yn cynnyg troi yn ol i geisio gwella pethau, ond yn rhedeg ymaith, dan obeithio na bydd neb wedi fy ngweled a sylwi.' Tra yr ydoedd yn llefaru yn Saesonaeg, yr oedd y gynnulleidfa yn farwaidd; ond y foment yr agorodd ei enau yn Gymraeg, deffrowyd eu hystyriaethau, cynnyddai yr effeithiau fel yr elai yn mlaen; yr oeddynt fel yn crogi wrth ei wefusau, agorent eu geneuau, gwenent mewn cymmeradwyaeth, ac unwaith chwarddent allan. Ymofynais wedi hyny, pa un a oedd y teimlad hwnw ag oedd mor gyffredinol drwy y gynnulleidfa, a'r hwn oedd mor debyg i chwerthiniad, wedi ei achosi gan ffraetheb (wit)? 'Nac oedd,' meddid, 'ond trwy gymhwysiad bywiog o'r gwirionedd a drinid ganddo: cynhyrfai y pregethwr eu teimladau drwy gyfeirio at amgylchiad diweddar perthynol iddynt hwy fel cynnulleidfa, o'r hwn yr oeddynt oll yn hysbys, a theimlent ei rym mor effeithiol nes na allent ymattal rhag dangos eu teimladau yn y dull y gwnaethant.' Hysbysir i mi fod y Cymry weithiau yn eu cynnulliadau crefyddol yn amlygu eu teimladau yn y dull hwn."

Yr ydym bellach yn dyfod at gyfnod arall yn mywyd Mr. WILLIAMS: yn fuan wedi ei ddychweliad adref o'r brif-ddinas y tro y cyfeiriwyd ato uchod, dechreuodd awyrgylch ei gysuron wisgo cymylau a thywyllwch. Mwynhasai bedair blynedd ar bymtheg o heddwch a dedwyddwch gyda'i briod rinweddol a'i blant hawddgar, ond yn awr cafodd brofi mai ansicr ac anwadal yw cysuron daearol. Dechreuodd drygfyd yn ei dŷ.

Yr oedd iechyd Mrs. Williams wedi bod yn hytrach yn well nag arferol er ys rhai blynyddau yn flaenorol i 1835. Yn y flwyddyn hono cafodd anwyd trwm, yr hwn a effeithiodd yn ddwys ar ei chyfansoddiad gwanaidd; gwellhaodd i