Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ryw raddau, ond yr oedd peswch poenus wedi glynu wrthi, yr hwn na allai un moddion ei symud. Tua dechreu y A. 1836, yr oedd arwyddion eglur i'w canfod bod y natur a'r cyfansoddiad yn prysur roddi ffordd dan ddylanwad darfodedigaeth, ac ar y trydydd o Fawrth y flwyddyn hòno, gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd, a'i llygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd. Ysgrifenodd ein cyfaill hoffus, y Parch. T. Jones, Minsterley, Gofiant byr am y fam enwog hon yn Israel, yr hwn a ymddangosodd yn y DYSGEDYDD am Orphenaf, 1836. Wedi rhoddi byr-ddesgrifiad o nodwedd rhinweddol ei bywyd fel priod, mam, a Christion, cawn y dystiolaeth ganlynol am agwedd a phrofiad ei meddwl yn ei dyddiau olaf:

"Trwy ei chystudd oll yr oedd ei meddwl yn dawel a chysurus, nes oedd yn hyfrydwch bod yn ei chyfeillach. Yr oedd cysuron y grefydd a'i cynnysgaeddodd â'r fath gymhelliadau i ddyledswydd a bywyd duwiol, yn awr yn llifo fel afon i'w henaid, ac yn talu yn dda am bob traul a thrafferth a gymmerasai. Yr oedd ei meddwl yn gwbl ar Grist, ac yn rhyfeddu ei bod wedi caru cyn lleied arno, a gwneuthur cyn lleied drosto. Gyda'r myfyrdodau hyn ymddifyrai yn fawr mewn amryw bennillion, megys y canlynol:—

"Fy Nuw, fy nghariad wyt, a'm rhan,
A'm cyfan yn dragwyddol;
Ni feddaf ond tydi'n y ne',
Nac mewn un lle daearol."

"Yn ei horiau diweddaf, yn neillduol, yr oedd ei ffydd yn hynod o gref, eglur, a rhesymol, etto yr oedd yn ystyriol o dwyll y galon lygredig, ac yn ofni cymmeryd rhyfyg yn lle ffydd ddiffuant. Pan fyddai ei chysuron yn gryfion iawn, gofynai yn fynych, 'Can this be presumption?' A ddichon hyn fod yn rhyfyg? ac adroddai rai o'i hoff bennillion, megys—

"Tydi yw'r Môr o gariad rhydd,
Lle daw'm llawenydd dibaid;
Trogylch fy holl serchiadau wyt,
A Chanolbwynt fy enaid.

Fy enaid atat ti a ffy
Mewn gwresog gry' ddymuniad,
Ond O, mor bell yr wyf er hyn;
O lesu! tyn fi atad."

"Ei gweddi barhaus oedd am fwy o santeiddrwydd, a chael ei meddwl wedi ei sefydlu yn fwy ar Grist, fel pa nesaf i'r nefoedd yr oedd yn tynu, mwyaf i gyd oedd yn weled o'i gwaeledd; yn debyg i Paul wedi bod yn y drydedd nef, yn gwaeddi allan, 'Nid wyf fi ddim.' Dywedai yn aml am werthfawredd crefydd y galon—nad oedd crefydd