Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef, nid wyf yn gwybod pa beth i ddweyd, na pha fodd i dewi. Colled fawr i mi oedd ei ymadawiad; yr wyf yn teimlo felly, a diau y teimlaf yn hir. Gellir dweyd yn eofn, fod y Dywysogaeth wedi cael colled ar ei ol ef; colled a deimlir yn hir yn yr holl eglwysi cynnulleidfaol; ond colled fwy yn yr eglwysi oedd dan ei ofal neillduol. Teimlir y golled hon gan ein holl frodyr yn y weinidogaeth; ond, o bawb, fel person unigol, (a rhoi ei anwyl a'i serchog blant yn eithriad,) yr wyf yn gorfod credu mai y fi a gafodd y golled fwyaf. Yn y golled hon collais frawd serchog a thad tyner ar unwaith—athraw a hyfforddwr tirion a doethïe, plaid a diffynwr ffyddlon a thrwyadl, fel y gallaf ddwedyd

Os gellwch, rhoddwch mewn rhi'—y cwynion
Wna cannoedd o'i golli :
Ni ddichon fod modd ichwi
Allu dweyd fy ngholled i.

"Am y tair blynedd gyntaf o'm gweinidogaeth yma, cefais y fraint a'r anrhydedd o gyd-lafurio â'r serchog gyfaill a ffyddlon frawd, Mr. Breese. Ei ymadawiad ef i Gaerfyrddin fu'n ergyd drom i'm teimladau, ac yr wyf yn teimlo y golled hòno hyd heddyw; collais y pryd hyny frawd a chyfaill caredig iawn. Am yn agos i ddwy flynedd wedi hyny, bu'm yma yn amddifad mewn ystyriaeth; dim ond ymweliadau brodyr dyeithrol yn eu tro. Gyda fy mod yn dechreu eu hadwaen, byddent yn ymadael, a thrwy hyny ail waedu y clwyf am ymadawiad Mr. Breese.

"Y tair blynedd ganlynol bu yr hybarch dad, Mr. W., gyda fi; a gallaf ddweyd ei fod ef a Mr. B. wedi bod o gymhorth a lles mawr i mi, fel nas gallaf byth eu hanghofio.

"Yr oedd ymadawiad Mr. W. yn fwy annyoddefol, ac yn taro'n drymach yn un peth, am fod effeithiau ymadawiad Mr. B. wedi tyneru y teimlad, yn fwy parod i dderbyn argraff ddyfnach, felly yr oedd fel yn ail-waedu hen archoll; peth arall, am mai MARW a wnaeth Mr. W. Cefais y fraint o weled Mr. B. droion ar ol ei ymadawiad, a gobeithio y caf etto; ac y mae modd cael gohebu trwy lythyrau gydag ef; ond Mr. W., "Teithiodd lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwel," ac nid oes fodd cael llythyr o'i hanes ef na'r wlad y preswylia: "Ni ddychwel efe ataf fi, ond myfi a af ato ef." Ein cysur, yn ngwyneb yr holl ergydion yw, fod Pen yr eglwys yn fyw, ac y medr efe ofalu am Sïon, a gwisgo rhyw Eliseus â mantell yr Elias hwn etto. Bydded i hyn ein cynhyrfu i fwy o ymdrech a ffyddlondeb yn ngwinllan Crist. A pharotoer ni i gael ail-gyfarfod â'n cyfeillion etto mewn gwlad na bydd raid ymadael mwy.

Ydwyf, &c., "THOMAS PIERCE."

Er cryfed y darluniad a rydd ein parchedig frawd, yn y llythyr uchod, am ei "waith a llafur ei gariad," yn ystod tymhor byr ei weinidogaeth yn Llynlleifiad, diau y tystia'r eglwys yno, ar ol ei ddarllen, nad oes ynddo ddim uwchlaw'r gwirionedd, ond yn hytrach na fynegwyd y cwbl a allesid.