Er ei fod, bellach, yn tynu tua thriugain oed, yr oedd ei ysbryd mor fywiog, a'i alluoedd mor gryfion; ei feddyliau mor dreiddiol, a'i awyddfryd gweithgar mor awchus, ag y buasent erioed. Adnewyddai ei ieuenctyd fel yr eryr;' ond er hyny yr oedd arwyddion dadfeiliad i'w gweled yn lled amlwg yn ei babell—ei ddyn oddiallan. Yr oedd ei wynebpryd yn graddol gulhau, a'i ysgwyddau yn araf grymu yn barhaus wedi marwolaeth Mrs. Williams, yr hyn a brofai fod rhyw estron yn' dystaw fwyta ei gryfder, a bod ei gyfansoddiad wedi dechreu rhoddi ffordd. Edrychai ei frodyr a'i gyfeillion lliosog ar yr arwyddion hyn gyda dwys bryder.
Yn nechreu Gwanwyn 1838, cychwynodd ar ddiwrnod anghyffredin o oer a drychinllyd, i fyned i Heol Mostyn, i gyfarfod Dirwestol; safodd yn hir iawn yn y gwynt a'r gwlaw ar y Pier Head, i ddysgwyl i'r agerdd-long hwylio; rhoddwyd ar ddeall o'r diwedd ei bod yn rhoddi i fynu fyned y diwrnod hwnw, o herwydd y tywydd; ond ni roddai WILLIAMS i fynu; aeth i ymofyn am y cerbyd oedd ar gychwyn i Gaernarfon. Rhedodd y rhan fwyaf o'r ffordd o'r Pier Head i swyddfa'r cerbyd, nes oedd yn chwys drosto, a chychwynodd yn union yn y cyflwr hwnw, yn wlyb at y croen gan y gwlaw, ac yn wlyb o chwys hefyd, a daeth gyda'r cerbyd i Dreffynnon, a llettyodd yno y noson hòno. Cyn cyrhaeddyd yno, teimlai iasau yn ymaflyd ynddo, a fferdod a chrynfa drwyddo oll. Nid oedd nemawr well drannoeth, ond daeth i Mostyn, a chymmerodd ei ran yn ngwaith y cyfarfod, ond gydag anhawsdra mawr y gallai sefyll i fynu. Y dydd canlynol, ymddangosai ryw faint yn well, a cherddodd gyda'i gyfeillion, Rees, Dinbych; Pugh, Mostyn; a Hughes, Treffynnon, i Bagillt, i gynnal cyfarfod Dirwestol yno; daliodd yn lled ganolig drwy y dydd, ond cafodd noswaith led galed; y boreu drannoeth, ymddangosai yn isel ac yn wael iawn. Dychwelodd y boreu hwnw yn ol i Lynlleifiad, ac mor gynted ag y cyrhaeddodd adref, aeth i'r gwely yn wael iawn, lle y bu yn gorwedd am rai wythnosau, a phob tebygoliaeth, am hir ysbaid, na buasai yn cyfodi drachefn.
Ei afiechyd, fel y sylwyd, oedd anwyd trwm. Yr oedd yn gwisgo ymaith gyda phrysurdeb anarferol. Methai y meddygon yn lân yn eu cais i'w dwymno a'i chwysu, ac nid oedd ganddynt ond gobaith gwan iawn am ei fywyd; ond, pa fodd bynag, llwyddwyd i'w chwysu o'r diwedd, a dechreu-