Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymdrechu cynnyddu a myned rhagoch mewn dysg, ond yn enwedig mewn crefydd; crefydd yw sylfaen bywyd defnyddiol. Ffarwel, anwyl William.

Ydwyf, eich cariadlawn "DAD."

Erbyn iddo ddychwelyd adref i Lynlleifiad, nid oedd ofnau ei gyfeillion am dano wedi cael eu cwbl symud, na'u gobeithion am ei adferiad yn cael seiliau cryfion i fod yn hyderus, oddiwrth ei ymddangosiad, er fod cryn gyfnewidiad er gwell wedi cymmeryd lle. Ni chafodd aros gartref ond ychydig drachefn; cynghorodd ei feddyg ef i gymmeryd mordaith; a phenderfynodd fyned i Abertawy. Dygwyddodd fod cadben llong o Abertawy ag oedd yn adnabyddus iddo yn Llynlleifiad y pryd hwnw, yr hwn a gynnygiai ei gymmeryd gydag ef, ac felly y bu. Bu orfod i'r llestr, o herwydd gwynt gwrthwynebus, droi i borthladd Caergybi; a chafodd felly gyfleusdra am y tro olaf i dalu ymweliad â'i anwyl gyfeillion yn y dref hòno. Cawsant eu cadw yno am dridiau neu bedwar. Sylwai y Parch. W. Griffiths ei fod mor fywiog a siriol ei ysbryd ag y gwelsai ef erioed; a bod ei gyfeillach a'i ymddyddanion yn hynod fuddiol ac adeiladol.

"Yr wyf yn hyderu (meddai mewn llythyr ataf o Gaergybi) y gwna y fordaith lawer o les i mi. Yr wyf yn ceisio meddwl fy mod yn pesychu llai yn barod. Taflodd y gwynt ni yma, ac yr oedd yn dda genyf gael ymweled â'r cyfeillion yn y lle hwn. Bwriadwn hwylio y fory," &c.

Wedi cyrhaeddyd Abertawy, cafodd wahoddiad a derbyniad caredig i letya gan Mr. a Mrs. Hughes, Yscety Isaf, gerllaw y dref hono. Y goffadwriaeth ganlynol am dano, tra yn lletya yno, a dderbyniodd yr ysgrifenydd mewn llythyr oddiwrth Mr. Thomas Nicolas, pregethwr ieuanc gobeithiol perthynol i eglwys Trefgarn, swydd Benfro, yr hwn sydd yn bresennol yn fyfyriwr yn Athrofa Windsor, Llynlleifiad, dan arolygiaeth y Parch. Mr. Brown:

"Trefgarn, Ion. 4, 1841.

"ANWYL SYR,—Deallaf eich bod wrth y gorchwyl o gasglu Cofiant am y diweddar Barch. Mr. WILLIAMS. Gwelais ar amlen y DYSGEDYDD ddymuniad oddiwrthych ar i bawb a wyddent rywbeth o bwys am dano, ei anfon atoch. Efallai y bydd yr hanesyn byr a ganlyn o werth genych.

"Bûm yn ddiweddar drwy ran o swydd Forganwg; bûm yn lletya un noson yn Yscety Isaf—y man y lletyai Mr. WILLIAMS, pan y bu drosodd am ei iechyd, a lle y mae ei goffawdwriaeth yn anwyl a ben-