Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

digedig. Dywedai Mrs. Hughes, fod ei ymddygiad, tra y bu yno, yn wir ddelw o symledd, gostyngeiddrwydd, a duwiolfrydigrwydd. Ofnai yn fawr rhag bod o ddim trafferth nac anghyfleusdra i neb; byddai yn hynod ddiolchgar am y gymmwynas leiaf; ac ymdrechai wneuthur rhyw ad-daliad am bob un. Ymddangosai yn dra awyddus am adferiad iechyd, fel y gallai wneyd mwy o ddaioni; cwynai yn aml iawn nad oedd wedi gwneuthur nemawr iawn o ddaioni yn ei oes. 'Yr wyf yn penderfynu, yn nghymhorth y nef, (meddai,) os caf wella, i bregethu yn well, a gweithio mwy nag erioed.'

"Daliodd Mrs. Hughes sylw arno un boreu, ei fod yn edrych yn hynod o bruddaidd ac isel ei feddwl; a chan dybied mai gwaeledd ei iechyd, ac nad oedd yn gwellhau cystal â'i ddysgwyliad, oedd yr achos, hi a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn rhyfeddu atoch, Mr. Williams, fod gwr o'ch bath chwi yn gofidio wrth feddwl am farw, mwy nâ phe byddech yn meddwl am fyw.' Taflodd olwg dreiddiol arni, ond methodd ateb gair; crymodd ei ben ychydig, a sylwai Mrs. Hughes fod y dagrau yn llifo ar hyd ei ruddiau: pan welodd hithau hyny, gadawodd ef, gan fyned i barotoi boreufwyd. Wedi i'r teulu ymwasgaru, galwodd arni, ac wedi iddi eistedd gerllaw iddo, dywedai, Dywedasoch gyneu, eich bod yn rhyfeddu ataf fi, fy mod yn drwm fy nghalon gyda golwg ar farw, yn awr mi a ddywedaf i chwi, y mae arnaf fawr awydd byw i wneyd llawer mwy dros Grist nag a wnaethum erioed. O! nid wyf wedi gwneuthur dim! A pheth arall, dymunwn fyw nes gweled fy mhlant wedi tyfu i fynu i allu gofalu am danynt eu hunain.'

Yr wyf yn meddwl mai drannoeth wedi'r ymddyddan uchod yr aeth Mr. WILLIAMS i Abertawy heb feddwl llai na dychwelyd yn ol i'r Yscety eilwaith, ond cafodd lythyr yn y dref, oddiwrth ei deulu gartref, yn ei hysbysu fod ei fab hynaf wedi dychwelyd adref o'r Coleg i dalu ymweliad â'i deulu, penderfynodd i fyned adref y diwrnod hwnw gyda'r agerdd-long, 'rhag' ebe efe, 'na chaf gyfle i'w weled ef byth mwy.' Felly ymadawodd â Morganwg. Yr eiddoch, &c.,

"THOMAS NICOLAS."

Cafodd gryn lawer o les yn y daith hon, yr oedd ryw gymmaint yn gryfach erbyn dychwelyd adref; ond dilynodd ei hen beswch ef bob cam o'r daith yn mlaen ac yn ol; methodd awyr y môr na'r mynydd a chael ganddo ollwng ei afaelion o hono.

Penderfynodd gynnyg pregethu unwaith drachefn, wedi cyrhaedd adref; nid wyf yn gwybod ddarfod iddo anturio pregethu er dechreuad ei afiechyd cyn y Sabboth cyntaf wedi iddo ddychwelyd o'r Deheudir; yr oedd dan gaeth waharddiad ei feddyg i beidio; yr oedd yr iau hon yn gorwedd yn anesmwyth iawn ar ei war; yr oedd fel "llô heb ei gynefino" â hi, a mynych