Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

teimlai awydd i ddryllio y rhwymau, a thaflu y rheffynau hyn oddiwrtho. Cyn ei gychwyn i'r Deheudir, ysgrifenai ataf, a dywedai yn ei lythyr, "Yr wyf gryn lawer yn well, ac yn meddwl y gallwn bregethu, ond dywed y Doctor nad gwiw i mi sôn—I dont like that at all." Dro arall mewn ymddyddan, dywedai, "Byddai yn dda genyf gael gwybod barn onest y meddygon am danaf; os ydynt yn meddwl na allaf wellhau, mi a bregethwn fy ngoreu tra daliai yr ychydig nerth sydd genyf—y mae yn garchar mawr i mi fod fel hyn.' Pa fodd bynag, y Sabboth crybwylledig, tòrodd bob cyfraith ag oedd ar y ffordd, ni allai ymattal yn hwy. Yr oedd cenadwri y cymmod "yn ei galon, yn llosgi megys tân, wedi ei chau o fewn ei esgyrn, blinasai yn ymattal, ac ni allai beidio." Ei destun y nos Sabboth hwnw, ydoedd Act. 24, 25, "Dos ymaith ar hyn o amser, a phan gaffwyf amser cyfaddas mi a alwaf am danat." Yr oedd rhyw ddifrifolder a dwysedd anghyffredinol yn ei ddull y waith hon, a rhyw ddylanwad anarferol gyda'r genadwri. Yr hen dân a fuasai yn llosgi cyhyd yn ei galon, yn rhedeg allan fel hylif poethlym, nes oedd y calonau caletaf yn dadmer yn ei wres. Diwreiddiodd corwynt ei weinidogaeth y noson hòno lawer o hen dderi cedyrn ag oeddynt wedi dal llawer rhuthr nerthol cyn hyny; a diau y gellir edrych ar yr oedfa hono, fel rhagredegydd i'r diwygiad grymus a dòrodd ar eglwys a chynnulleidfa y Tabernacl yn lled fuan ar ei hol.

Wedi unwaith ail ymaflyd yn ei waith, nid hawdd fuasai cael ganddo ei ollwng eilwaith; ac felly aeth yn mlaen gan bregethu, weithiau unwaith, ac weithiau ddwywaith bob Sabboth am gryn dymmor, ac nid oedd yn teimlo bod pregethu yn gwneuthur nemawr ddim niwed iddo, ac yr oedd yn llawen dros ben o herwydd hyny. Fel hyn yr oedd yr haul megys yn dechreu ad-dywynu ar ei babell, ei obaith ei hun, a gobeithion ei gyfeillion lluosog yn dechreu cryfhau am estyniad ei oes dros rai blynyddau yn mhellach.

Cynghorwyd ef drachefn i fyned cyn diwedd y flwyddyn hon i ffynnonau Llandrindod, a hwyliodd tuag yno gyda'i ferch hynaf; yr oedd hithau hefyd yn bur wael ei hiechyd, profodd y ddau lesâd mawr oddiwrth y dyfroedd, a dychwelasant adref wedi cryfhâu a sirioli yn dda.

Daliodd yn lled lew drwy y gauaf dilynol, pregethai ddwywaith yn mron bob Sabboth. Ond nid oedd y seibiant hwn ondo fyr barhad; oblegid ar noson y rhyferthwy mawr, y