Ymddangosai yn mhen ychydig wythnosau ar ol ei symudiad o Lynlleifiad, ei fod yn gwellhau o ddifrif; dywedai ei fod yn teimlo ei hun yn cryfhau bob dydd, a'i fod yn bur agos mor gryfed ag ydoedd cyn ei gystudd; ond yr oedd ei anwyl Elizabeth yn gwanhau yn brysur; ac Och! nid oedd ei welliant yntau ond megys tywyniad haul am fomentyn rhwng dau gwmwl dudew, ar ddiwrnod cawodog yn mis Hydref.
Yr oedd diwygiad nerthol wedi tòri allan yn y Wern ychydig amser cyn ei symudiad yno o Lynlleifiad, ac yr oedd hyny yn rhoddi hyfrydwch dirfawr i'w feddwl. Gwahoddodd yr ysgrifenydd, a'r brawd Jones o Ruthin, ato i gynnal cyfarfod yno yn fuan wedi ei ddyfodiad atynt, a dyna y cyfarfod diweddaf y bu ef ynddo ar y ddaear, er iddo bregethu rai gweithiau wedi hyny. Yr oedd ei weddiau a' 'i anerchion yn hynod ddwysion a gafaelgar y cyfarfod hwn. Yr oedd ei deimladau yn methu dal yn y gymdeithas eglwysig ar ol y moddion cyhoeddus yr hwyr olaf, wrth anerch y dychweledigion ieuainc. "Yr wyf yn gweled yma lawer o wynebau," meddai, "na feddyliais y cawswn eu gweled byth yn eglwys Dduw, rhai o honoch ag y bum yn amcanu at eich dychweliad flynyddau lawer, ac yn methu; treuliais hyny o ddoethineb a dawn a feddwn i geisio cyrhaedd ac ennill eich calonau, ond yn ofer; gorfu i mi eich gadael yn annychweledig; ond cefais fy arbed a'm dychwelyd yn ol i'ch gweled yn ddychweledigion yr Arglwydd, gobeithio. Y mae fel breuddwyd genyf weled rhai o honoch. O mor ddiolchgar y dymunwn fy mod am gael byw i weled y pethau a welaf heno." Yr oedd hyn, hyd y gallaf gofio, tua diwedd Tachwedd.
Yr oedd yn dal i wella yn ddymunol hyd Rhagfyr yr 20fed: yn hwyr y dydd hwnw, yr oedd yn siriol ymddyddan gyda'i gyfaill a'i hen gymmydog, y Parch. T. Jones, gynt o Langollen, yn awr o Minsterley, yr hwn a ddaethai i ymweled ag ef, pan yn ddisymwth, ar ei waith yn pesychu, torodd llestr gwaed o'i fewn, a rhedodd cryn lonaid cwpan ffwrdd oddiwrtho. Dygwyddodd yn ffodus fod y meddyg, Dr. Lewis o Wrecsham, yn y tŷ ar y pryd, yn talu ymweliad â'i anwyl Elizabeth, yr hon erbyn hyn ydoedd yn wael iawn, ac yn cadw ei gwely. Dododd y meddyg ef yn ei wely, gyda gorchymyn iddo i ymgadw yn llonydd, i beidio na symud na siarad dim, a phethau ereill. Yr oedd y dyrnod hwn yn