farwol yn ei ganlyniadau: o'r awr hòno allan ni feddyliodd am wella. Mor siomedig yw pob gobeithion daearol! Pan oedd ei obaith ef ei hun, a'r eiddo cannoedd o gyfeillion pryderus, am ei adferiad, ac estyniad o rai blynyddau yn mhellach at ei oes werthfawr a defnyddiol,—pan oedd y gobaith hwn, meddaf, yn dechreu ymagor a blodeuo, wele un awel wenwynig yn anadlu arno, nes y mae yn gwywo ac yn cwympo i'r llawr yn ddisymwth!
Adgryfhaodd ryw ychydig wedi hyn, fel y gallai ddyfod o'r gwely, ac i lawr i'r tŷ, ond nid cymmaint ag i roddi y sail leiaf i hyderu am ei welliant.
O hyn allan yr oedd ef a'i ferch, megys y sylwai wrthi un diwrnod, fel yn rhedeg am y cyntaf tua phen y daith. Cymmerwyd yr hanesyn canlynol am danynt allan o'r Dysgedydd am Mai, 1840 :—
"Ymddengys eu bod yn arfer ymddyddan â'u gilydd am farw, ac am fyned i'r nef, fel pe buasent wedi cynnefino â hyny, ac yn ymhyfrydu yn y meddwl o gael eu datod a bod gyda Christ, gan gredu mai llawer iawn gwell ydyw. Byddai Mr. WILLIAMS, pan godai y boreu, yn myned at ei gwely i edrych am dani. Ac un tro gofynai iddi,' Wel, Eliza, pa fodd yr ydych chwi heddyw?' 'Gwan iawn, fy nhad,' oedd yr ateb. Ebai yntau, Yr ydym ein dau ar y race, pwy a â gyntaf i'r pen, debygech chwi?' 'O,' meddai hithau, ‘dysgwyliaf mai myfi, fy nhad—fod genych chwi waith i'w wneuthur etto ar y ddaear.' 'Na,' ebe yntau, 'meddyliwyf fod fy ngwaith innau agos ar ben.' 'Wel,' ebe hithau, 'yr wyf yn meddwl mai myfi a â'n gyntaf.' Atebai yntau, 'Hwyrach mai felly y mae'n oreu—fy mod i ychydig yn gryfach i ddal yr ergyd.' 'Ond a ydych yn hiraethu am weled pen y daith?' eb efe drachefn. 'Ydwyf o'm calon,' oedd ei hateb. 'Paham hyny? Am y caf weled llawer o'm hen gydnabyddiaeth, a chaf weled fy mam, a mwy nâ'r cwbl, caf weled Iesu.' 'Ho,' ebe yntau, 'wel, dywedwch wrthynt fy mod innau yn dyfod.""
Yr oedd ef a hithau fel hyn yn cyd-aeddfedu yn brysur i'r bedd ac i'r nefoedd; ac yn ol rhagddysgwyliadau y ddau, y hi gyrhaeddodd ben y daith gyntaf. Yr oedd ei dyddiau olaf yn llawn tangnefedd. "Tangnefedd! Tangnefedd!" oedd ei geiriau olaf, ac felly yr aeth "i dangnefedd," ac y gorphwysodd yn ei hystafelloedd, ar yr 21ain o Chwefror, 1840, a chladdwyd hi yn mynwent capel y Wern, yn yr un bedd a'i mam, ar y 26ain o'r un mis; yn y 22ain flwyddyn o'i hoedran.
Rhaid i ni bellach ddychwelyd yn ol ato yntau, a chawn ef yn prysuro yn gyflym ar ei hol; yn gwaelu ac yn aeddfedu