Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bob dydd—dyddiau ei filwriaeth" ar derfynu, ac nid oes ganddo bellach ond "dysgwyl am ei gyfnewidiad." Un diwrnod daeth y Parch. J. Pearce, o Wreesham, i ymweled ag ef; yr oedd newydd orphen trefnu amgylchiadau ei dŷ; gofynodd Mr. Pearce iddo, pa fodd yr ydoedd? "Yr wyf yn awr," eb efe, "wedi cwbl ddarfod â'r ddaear, dim ond y nefoedd bellach !"

Pa nesafi angeu ac i'r nefoedd yr oedd yn tynu, cynnyddai ei deimlad dros achos Crist ac eneidiau dynion yn barhaus. Yr adfywiadau grymus oeddynt yn yr eglwysi y dyddiau hyny a lanwent ei galon â llawenydd a diolchgarwch. "Yn Chwefror diweddaf," medd y Parch. B. W. Chidlaw, o'r America, "yr ymwelais ag ef, pan ar fy nhaith drwy ranau o'm gwlad enedigol, ond nid oedd gobaith am ei adferiad. Yr oedd diwygiadau mawrion yn y Wern a'r Rhos—dwy o'r cynnulleidfaoedd a fuasent gynt dan ei ofal gweinidogaethol—lluoedd yn dyfod at yr achos, ac yntau yn analluog i adael ei ystafell. Dywedodd gyda mawr deimlad, a'r nefoedd yn llon'd ei enaid, 'Dyma fi fel hen huntsman methedig, yn swn yr helfa, ond yn methu canlyn; mae fy nghalon gyda hwy, a mawr lwydd ar eu holl ymdrechiadau i achub eneidiau. 0! pe buasai yr Ysbryd yn mhlith gweinidogion ac eglwysi ugain mlynedd yn ol, buasem heddyw yn canu caniadau buddugoliaeth.'

Cynnaliwyd cyfarfod yn Rhos oddeutu pum wythnos cyn ei farwolaeth, yn yr hwn yr oedd "nerthoedd y byd a ddaw" mewn modd anghyffredinol yn deimladwy,—ugeiniau o bechaduriaid "dan gerdded ac wylo yn ymofyn y ffordd tua Sïon." Yr oedd pryder a gofal dwys ar ei feddwl yn nghylch y cyfarfod hwnw: anfonai aml genadwri yn ystod y dydd i'r cyfarfod, er annog a chymhell ei frodyr yn y weinidogaeth, a'r eglwys yn ei gwaith, i'w sicrhau, er ei fod yn absennol oddiwrthynt yn y corff, ei fod yn bresennol gyda hwynt yn yr ysbryd; ac i ddeisyf eu gweddiau drosto ef a'i blant.

Y boreu trannoeth, aeth yr ysgrifenydd, a'r brawd Jones, o Ruthin, i ymweled ag ef. Yr oedd wedi codi o'r gwely, ac yn eistedd wrth y tân yn y llofft. Daethai y Parch. W. Griffiths o Gaergybi, a Joseph Jones, ysw., drosodd o Lynlleifiad y boreu hwnw i ymweled ag ef. Nid anghofiwn byth yr olwg a gawsom arno pan aethom i'r ystafell! Pan welodd ni, cyfododd ar ei draed, a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb