Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

angel; tybiem fod holl alluoedd ei enaid a'i deimladau fel wedi ymgodi i'w wynebpryd; ei ddau lygad oeddynt yn gyffelyb i feini tanllyd, ac ar yr un pryd fel dwy ffynnon o ddwfr yn bwrw allan eu haberoedd gloywon, Dilynodd pob llygad yn yr ystafell siampl yr eiddo ef, ac wylasom ynghyd. fy mrodyr anwyl," eb efe, "mor dda genyf eich gweled yn dychwelyd o faes y frwydr! Cawsoch fuddugoliaeth ogoneddus ddoe! a minnau yma, yn hen filwr methedig yn swn y frwydr, ond yn methu dyfod i gymmeryd rhan ynddi. O fel y dymunaswn fod gyda chwi, ond nid felly y gwelodd fy Nhywysog yn dda: rhoddodd fi o'r neilldu, ond gwnaeth hyny yn dirion iawn, ni chymmerodd fy nghoron oddiar fy mhen, ni fwriodd fi i'r domen. O! pe buaswn yn yr ysbryd a'r teimladau yr wyf ynddynt y dyddiau hyn bump ar hugain o flynyddau yn ol, pa faint mwy o ddaioni a wnaethwn nag a wnaethum! Mi a gefais amser, talentau, a dylanwad, y gallaswn, ond eu hiawn ddefnyddio, ysgwyd yr holl Dywysogaeth; ond Och! darfu i minnau chwarae â hwynt; a pheth rhyfedd iawn ydyw na buasai fy Meistr mawr yn fy mwrw ymaith oddiger ei fron, fel llestr heb hoffder ynddo!"

"O, (ebe un o honom,) yr ydym yn mawr hiraethu, ac yn gobeithio am eich gweled yn ail ymddangos ar y maes etto." "Nid oes genyf fi nemawr o obaith am hyny, (ebe yntau,) ond pe bai hyny i fod, yr wyf yn gobeithio y byddwn yn llawer gwell milwr nag y bum erioed."

Yr oedd ei anwyl Elizabeth ar gyffiniau y glyn, yr amser hwn, aethom gydag ef i ymweled â hi cyn ymadael, ni allai hi wneyd nemawr ond siriol wenu arnom, yr hyn a ddangosai ei phrofiad ac agwedd gysurus ei meddwl. Wedi eu gorchymyn i'r Arglwydd mewn gweddi fèr, ymbarotoisom i ymadael; ac O, fynudau cyssegredig! Edrychodd arnom gyda golwg nad yw yn bossibl ei desgrifio, a dywedodd, "Wel, fe allai, ac y mae yn debyg ein bod yn myned i ymadael y tro diweddaf, ond os na chawn weled wynebau ein gilydd ar y ddaear mwy, gadewch i ni dyngu ein gilydd yn y fan hon, y fynud hon, y bydd i ni gyd-gyfarfod yn y nefoedd!" Mewn gwirionedd, yr oedd y lle yn ofnadwy iawn! Llefarai y geiriau uchod gyda'r fath ddwysder a phwys, a greai deimladau ag oeddynt yn mhell tuhwnt i ddagrau; yr oeddynt ry sobr-ddwysion i ddagrau, ac felly ymadawsom.

Gwelsom ef unwaith drachefn, wedi gwaelu llawer, ac yn